Eluned Morgan yn ymgeisio i fod yn arweinydd Llafur Cymru

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan, yn dweud y bydd hi'n sefyll i olynu Vaughan Gething fel arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog.

Mae’r AS Llafur yn dweud fod "mwyafrif" y 30 o aelodau sydd gan y blaid yn y Senedd yn ei chefnogi – gan gynnwys y cyn-ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth, Jeremy Miles.

Dywedodd Ms Morgan y byddai’n cynnig platfform unedig gyda’i chyd-aelod o’r cabinet, Huw Irranca-Davies, yn rhedeg fel ei dirprwy.

Hi yw'r unig berson i ddatgan hyd yn hyn eu bod am fynd am y swydd, gyda'r cyfnod ar gyfer enwebiadau yn cau am 12:00 ddydd Mercher.

Morgan yn 'falch' o sefyll fel ymgeisydd

Mewn datganiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd ei bod yn “falch” o sefyll fel ymgeisydd i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Dywedodd y byddai’n “cael ei hysgogi gan awch i wasanaethu’r bobl ac ailosod y berthynas rhwng y llywodraeth a phobl Cymru”.

“Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â’m cydweithiwr gwych, Huw Irranca-Davies, sy’n rhannu fy angerdd a phrofiad yn y Llywodraeth ac ymdeimlad cryf o ddyletswydd gyhoeddus.

"Gyda’n gilydd, rydym wedi ymrwymo i roi Cymru yn ôl ar y trywydd iawn”.

Ychwanegodd Ms Morgan: “Yn y dyddiau nesaf, byddwn yn gosod ein blaenoriaethau i wella gwasanaethau cyhoeddus, creu swyddi gwell a gwyrddach a grymuso ein cymunedau.

"Ein ffocws fydd newid ystyrlon ac adeiladu dyfodol mwy disglair i gymunedau ledled Cymru.”

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Huw Irranca-Davies yn rhedeg fel dirprwy brif weinidog

Fe fydd yr ysgrifennydd Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn rhedeg fel ei dirprwy – ac os ydyn nhw’n ennill, ac yn amodol ar bleidlais yn y Senedd, fe allai ddod yn ddirprwy brif weinidog.

Mae'r drefn yna wedi digwydd o’r blaen o dan Mike German ac Ieuan Wyn Jones.

Dywedodd Mr Irranca-Davies: “Rwy’n falch o fod yn cefnogi Eluned fel Arweinydd nesaf Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, ac mae’n anrhydedd cael ymgyrchu ochr yn ochr â hi”.

“Gan weithio gyda’n gilydd a gyda’n tîm arwain, bydd ein mudiad Llafur Cymreig yn parhau i weithio i wella bywydau beunyddiol pobl a sefyll lan dros Gymru decach a gwyrddach.”

Ar faes y Sioe Frenhinol, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens: "Rydw i am aros yn ddiduedd os fydd ras am yr arweinyddiaeth oherwydd pwy bynnag fydd yn ennill y ras, mi fydda i'n gweithio gyda'r person yna fel ysgrifennydd Cymru.

"Ond rydw i wrth fy modd bod Eluned Morgan wedi cyhoeddi ei bod hi'n ymgeisio ac mae'n dda gweld ymgeisydd benywaidd yng Nghymru o'r diwedd."

Mae cyn-brif weinidog Cymru, Mark Drakeford ymhlith y rhai sydd wedi datgan eu bod yn cefnogi ymgyrch Eluned Morgan.

Dywedodd mewn datganiad: "Byddai Eluned yn arweinydd gwych ar Lafur Cymru, yn mynd a'n neges i bob cwr o Gymru, yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Lafur y DU, atgoffa pobl pam eu bod nhw wedi cefnogi Llafur Cymru yn y gorffennol a gwneud paratoadau er mwyn perswadio pobl i wneud hynny eto yn 2026."

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n "hen bryd" i ddynes arwain Llafur Cymru, medd Eluned Morgan

Wrth lansio ei hymgyrch yn swyddogol ar faes y Sioe Fawr brynhawn Llun, dywedodd Eluned Morgan fod angen i'r blaid ddysgu gwersi o'r rhaniadau a welwyd yn ddiweddar, gan fynnu y byddai'n gwrando ar ei phlaid a phobl Cymru.

Ychwanegodd ei bod hi'n "hen bryd i ddynes ddod yn arweinydd ar Lafur Cymru".

Fe gadarnhaodd hefyd y byddai Huw Irranca-Davies yn rhedeg fel ei dirprwy: "Mae'r sefyllfa 'da ni ynddi ar hyn o bryd yn dangos pa mor bwysig ydi hi i gael dirprwy sydd yn barod i gamu i'r adwy mewn argyfwng".

'Mwy o’r un syniadau'

Mae arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi beirniadu record Ms Morgan yn ystod ei chyfnod fel Ysgrifennydd Iechyd.

"Ddydd Iau diwethaf, welon ni ffigyrau sy'n dangos mai Cymru sydd â'r amseroedd aros gwaethaf o holl wledydd y DU," meddai.

"Os mai dyma yw'r gorau sydd gan Lafur i'w gynnig, yna mae 18 mis ansefydlog o'n blaenau cyn etholiadau'r Senedd yn 2026."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol fod ffocws Llafur "yn gyfan gwbl ar reolaeth eu plaid yn hytrach nag ar newid cyfeiriad i Gymru" wedi wythnosau o "ffraeo mewnol".

"Gall absenoldeb platfform polisi olygu un peth yn unig – mwy o’r un syniadau blinedig a meddylfryd hen ffasiwn sydd wedi arwain at Gymru ar waelod tablau cynghrair economaidd, iechyd ac addysgol ar ôl 25 mlynedd o Lafur mewn grym."