Arweinydd Llafur Cymru: Rhagor o gefnogaeth i Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd
Mae naw aelod Llafur o'r Senedd yn cefnogi Eluned Morgan i ddod yn arweinydd newydd y blaid yng Nghymru, er nad yw hi wedi cadarnhau eto a fydd hi'n sefyll.
Mae'r ysgrifennydd iechyd wedi pasio'r trothwy o chwech enwebiad i fod yn rhan o'r ras ac wedi dweud ei bod yn ystyried cais "ar y cyd", gyda'r ysgrifennydd materion gwledig Huw Irranca-Davies fel ei dirprwy.
Bydd yn rhaid i Aelodau Llafur o'r Senedd benderfynu erbyn 12:00 ddydd Mercher pwy maen nhw'n gefnogi ar ôl i Vaughan Gething gyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog Cymru.
Bydd olynydd Vaughan Gething yn cael ei ethol ym mis Medi ond does neb wedi dweud yn ffurfiol eto eu bod am ymgeisio.
Roedd disgwyl i gyn ysgrifennydd yr economi, Jeremy Miles, ymgeisio ar ôl i'r BBC gael gwybod bod ganddo ddigon o gefnogaeth i sicrhau ei le yn y ras.
Ond ddydd Sul fe ddywedodd ei fod yn cefnogi Eluned Morgan.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Jeremy Miles ei fod yn "gobeithio" y byddai Eluned Morgan yn cynnig ei hun gan ddweud fod ganddi hi a Huw Irranca-Davies "y gwerthoedd a'r hyn i ni angen mewn arweinydd ar hyn o bryd".
Wrth sôn am ei benderfyniad i adael y cabinet yr wythnos ddiwethaf, dywedodd mai dyna "un o'r penderfyniadau mwya' anodd mewn dros ddeg mlynedd ar hugain o fod mewn gwaith, sef ymddiswyddo o’r Llywodraeth."
"Roedd e’n benderfyniad anodd iawn iawn, ond yn un oedd yn angenrheidiol o’n safbwynt i, fel bod ni fel plaid yn gallu symud ymlaen
"Mewn bywyd cyhoeddus, ma’ rhaid i chi roi beth i chi’n gweld yw buddiannau’r blaid a’r wlad o flaen penderfyniadau personol," meddai.
Yr ASau Llafur sydd wedi datgan eu cefnogaeth i Eluned Morgan yw: Jeremy Miles, Jack Sargeant, Mick Antoniw, Huw Irranca Davies, Joyce Watson a Mike Hedges, Dawn Bowden, Vikki Howells a Hefin David.
Morgan ac Irranca-Davies yn ystyried cais 'ar y cyd'
Mae Ms Morgan wedi dweud ei bod yn ystyried cais "ar y cyd", gyda'r ysgrifennydd materion gwledig Huw Irranca-Davies fel ei dirprwy.
Dywedodd wrth BBC Politics Wales ddydd Sul ei bod yn "ystyried o ddifri" ymgeisio am yr arweinyddiaeth i olynu Mr Gething yn dilyn ei benderfyniad i ymddiswyddo a'i bod hi'n gobeithio cadarnhau ei bod hi am sefyll "yn yr oriau neu'r dyddiau nesaf".
Roedd Mr Gething wedi bod o dan bwysau ers cyn dod yn brif weinidog ym mis Mawrth oherwydd rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i fod yn arweinydd ei blaid, ac yn fwy diweddar am ddiswyddo un o'i weinidogion.
Mae rhai, gan gynnwys y cyn-brif weinidog Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn bwysig fod menyw'n rhan o'r ras - does yr un fenyw erioed wedi arwain Llafur Cymru.
Dywedodd Ms Morgan fod hynny'n "rhywbeth i bobl ei ystyried, ond hoffwn i feddwl bod mwy i'r peth 'na hynny".
"Mae e' hefyd am y profiad sylweddol y galla' i ei gynnig."
Ddydd Llun, dywedodd Huw Irranca-Davies wrth BBC Cymru bod ganddo ddigon o gefnogaeth i ymuno â'r ras ond ei fod wedi penderfynu na fyddai'n gwneud hynny.
Mewn cyfweliad yn y Sioe Fawr brynhawn Sul, dywedodd Huw Irranca-Davies ei fod yn canolbwyntio ar ei swydd bresennol - rôl y mae yn ei "fwynhau yn arw".
"(Eluned Morgan) fyddai'r arweinydd benywaidd cyntaf ar Lywodraeth Cymru a Llafur Cymru, ac mae hi'n rhywun sydd â hanes o gyflawni ei hamcanion ac yn wleidydd sydd â phrofiad anhygoel.
"Ond dyw hyn ddim drosodd tan fore Mercher ac mae hi dal yn bosib y bydda 'na ras.
"Os yw Eluned yn cael ei henwebu fel rhan o bartneriaeth fyddai o fudd i Gymru ac i bobl Cymru, yna dwi'n credu y byddai hwnnw yn gynnig cryf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf