CBDC yn gwrthod trwydded haen uchaf i Bontypridd
![Pontypridd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1024/cpsprodpb/cc19/live/143ff760-f325-11ee-97f7-e98b193ef1b8.jpg)
- Cyhoeddwyd
Dyw Clwb Pêl-droed Pontypridd ddim wedi llwyddo i sicrhau trwydded i chwarae yn y Cymru Premier y tymor nesaf.
Mae eu methiant i sicrhau trwydded Haen 1 CBDC yn golygu eu bod yn wynebu disgyn o'r gynghrair, dim ots ble maen nhw'n gorffen yn y tabl.
Mae Pontypridd yn 11eg o'r 12 tîm yn y Cymru Premier ar hyn o bryd, ar ôl colli naw pwynt am dorri rheolau'r gynghrair.
Mae ganddyn nhw 10 diwrnod i apelio yn erbyn penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Beth yw sefyllfa timau eraill?
Mae'r 11 tîm arall yn y Cymru Premier wedi cael trwyddedau Haen 1.
Yn y Cymru South, mae'r ddau dîm sydd ar frig y tabl - Llansawel a Llanelli - wedi sicrhau trwyddedau a fyddai'n golygu eu bod yn gymwys i gael dyrchafiad i'r Cymru Premier ar ddiwedd y tymor.
Mae Airbus, sydd ar frig tabl y Cymru North, hefyd wedi sicrhau trwydded Haen 1, ond dyw Treffynnon, sy'n ail ac â sawl gêm yn fwy yn weddill, ddim wedi cael trwydded ar gyfer y Cymru Premier.