Llandudno: Arestio gyrrwr bws ysgol am droseddau cyffuriau

A5Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei arestio ar yr A5 ger Corwen brynhawn Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr bws ysgol wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau.

Cafodd y dyn 45 oed o ardal Llandudno ei arestio toc wedi 17:00 brynhawn Mawrth ar yr A5 ger Corwen ar ôl methu prawf cyffuriau ar ochr y ffordd.

Fe wnaeth y dyn brofi'n bositif i fod dan ddylanwad canabis.

Nid oedd unrhyw ddisgyblion ar y bws ar y pryd.

Mae'r dyn bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad tra bod disgwyl canlyniadau o ragor o brofion gafodd eu cynnal.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod yr ysgol, yr awdurdod lleol a'r cwmni bws yn ymwybodol o'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig