Dyn wedi marw ar ôl mynd yn sownd mewn peiriant ailgylchu

Roedd Kyle Colcomb (yn y canol) yn gweithio i Atlantic Recycling pan gafodd ei ddal mewn peiriant
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 27 oed ar ôl mynd yn sownd mewn peiriant tra'n gweithio mewn ffatri ailgylchu yng Nghaerdydd, clywodd cwest.
Ar 8 Gorffennaf, bu farw Kyle Colcomb, o Gasnewydd, o asffycsia ac yr oedd wedi cael anafiadau difrifol i ran isaf ei gorff, clywodd cwest yn Llys Crwner Pontypridd ddydd Gwener.
Roedd Mr Colcomb yn gweithio'n Atlantic Recycling sy'n eiddo i gwmni a roddodd £200,000 i ymgyrch arweinyddiaeth Llafur Cymru Vaughan Gething.
Disgrifiwyd Mr Colcomb yn flaenorol gan gydweithwyr fel “gŵr bonheddig” a “hollol unigryw”.