Apêl wedi i ddynes 85 oed fynd ar goll

Ann JonesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann Jones hefyd yn cael ei hadnabod yn lleol fel Nancy neu Nance

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i ddynes 85 oed fynd ar goll o'i chartref yn Y Bont-faen.

Yn ôl Heddlu'r De mae Ann Jones, sydd hefyd yn cael ei hadnabod yn lleol fel Nancy neu Nance, ar goll ers ddydd Gwener.

Mae'n cael ei disgrifio yn ddynes pum troedfedd o daldra gyda gwallt byr, llwyd, cyrliog ac mae hi'n gwisgo sbectol.

Mae hi hefyd fel arfer yn gwisgo trowsus.

Yn ôl ei theulu mae'n byw gyda dementia ac maen nhw'n bryderus ei bod yn ceisio mynd i ardal Cross Inn yng Ngheredigion, lle cafodd ei magu.

Pynciau cysylltiedig