Un o brif ffyrdd Gwynedd ar gau oherwydd 'perygl i fywyd'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn ne Gwynedd yn gorfod teithio milltiroedd yn fwy na'r arfer ar ôl i brif ffordd orfod cau yn sgil difrod Storm Darragh.
Bu'n rhaid cau'r A487 rhwng Corris a Minffordd - y brif ffordd i deithwyr rhwng Machynlleth a Dolgellau - am gyfnod ar ôl tirlithriad fore Sadwrn 7 Rhagfyr.
Ond oherwydd pryderon am "dir ansefydlog" uwchben y ffordd, cafodd ei chau eto ddydd Mercher a dydy hi ddim yn glir pa bryd fydd hi'n ailagor.
Pryder rhai pobl leol yw y gallai hynny gymryd sawl wythnos, neu hyd yn oed yn fwy.
Mae'r sefyllfa'n un allai achosi "perygl i fywyd", yn ôl un cynghorydd lleol.
Dywed Llywodraeth Cymru bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal yn y gobaith o "ddatrys y broblem cyn gynted â phosib".
Roedd yr adeiladwr lleol, Martin Jones, yn gyrru tua Dolgellau ar yr A487 yn fuan wedi i dir lithro ar y ffordd fore Sadwrn diwethaf.
"Efallai pe taswn i wedi bod yno 10 munud yn gynt, fyswn i wedi cael fy nal yn y tirlithriad, ac yn sownd neu hyd yn oed gwaeth," dywedodd.
"'Naeth y storm lot o ddifrod yn yr ardal ac mae wedi gadael ei ôl yn fawr."
Dywed Mr Jones, sy'n byw yn Aberllefenni, bod cau'r ffordd yn amharu ar ei waith, ac yn creu anhawster i'w deulu, gan bod meithrinfa ei ferch fach ochr arall i'r tirlithriad, ym Mrithdir, ger Dolgellau.
"Mae'n siwrne sy'n cymryd chwarter awr fer arfer. Rŵan, rhaid mynd rownd Machynlleth, Mallwyd a Dinas Mawddwy ac mae'n dri chwarter awr ar ben ein siwrne bob ffordd."
Dywed Dennis Jones, sy'n byw yng Nghorris, iddo gael sioc o weld maint y tirlithriad, wedi glaw trwm a gwyntoedd cryf "ofnadwy" Storm Darragh.
"Dydw i erioed wedi gweld dim byd tebyg," meddai. "Roedd llif y tir, y mwd a'r coed sydd wedi dod i lawr yn anghredadwy.
"Yn ffodus, fe gafodd ei glirio'n sydyn iawn gan gontractwr lleol, ond ers hynny maen nhw wedi arolygu'r tir sydd ar ôl ar y llethr ac mae'n debyg bod hwnna'r beryglus iawn, iawn ac yn dal yn ansefydlog."
Diogelwch y cyhoedd yw'r peth pwysicaf, meddai Mr Jones, ond mae cau'r ffordd yn anghyfleus, ac yn niffyg gwybodaeth bendant, mae ofnau yn lleol y gallai fod ar gau am wythnosau.
"Mae rhai wedi dweud chydig ddiwrnodau, rhai'n dweud 10 i 15 diwrnod, ond dywedodd rhywun bore 'ma gall fod yn ddau neu dri mis.
"Fe allai gymryd amser hir achos mae'n rhaid iddo fod yn hollol saff. Does dim pwynt ailagor heb sicrhau bod ni mewn lle diogel."
Yn ôl y Cynghorydd John Pughe Roberts, sy'n cynrychioli ward Corris a Mawddwy, mae yna bryder y gallai person gael ei ladd pe tai'r tir yn llithro eto.
"Y pryder ydy bod y tir uwch yn mynd i ddod yn rhydd a ma'n nhw'n ofn agor y ffordd," dywedodd wrth Cymru Fyw.
"Gall person gael ei ladd pe tai'r tir yn llithro lawr."
Mae yntau hefyd yn pwysleisio mai "iechyd a diogelwch sy'n dod yn gyntaf – dy'n ni ddim am i unrhyw un gael ei lladd".
Ond mae'r sefyllfa yn anghyfleus, ac yn "waeth i rywun sy'n byw yng Nghorris" ond mae "pobl leol yn deall bod y ffordd yn beryglus ac mae'n rhaid iddo aros ar gau".
"Yn amlwg mae'n cael effaith nawr ar ysgolion a phobl sy'n teithio i'r gwaith ac yn y blaen, ond mae yna bryder difrifol am ddiogelwch."
Addasu amserlen bysiau ar gyfer plant ysgol
Mae Beth Lawton, cynghorydd lleol dros Fro Dysynni, hefyd yn cydnabod bod cau'r ffordd yn "broblem fawr".
"Dwi siŵr ddim eisiau bod yn y car gyda thirlithriad yn dod lawr ar fy mhen i," meddai.
Er hyn, ychwanegodd bod y gymuned wedi "dod at ei gilydd i hwyluso'r broblem" gyda'r cwmni bysiau Lloyds Coaches yn addasu ei amserlen i "sicrhau fod plant medru cyrraedd yr ysgol".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y corff sy'n gofalu am ffyrdd ar eu rhan, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, "yn gweithio i ddatrys y broblem cyn gynted â phosib".
Ychwanegodd eu bod "yn ymddiheuro am yr anghyfleustra i fodurwyr" a bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol Traffig Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd12 Ionawr