Un o brif ffyrdd Gwynedd ar gau tan y flwyddyn newydd ar ôl tirlithriad

Tirlithriad ar yr A487 rhwng Corris a MinfforddFfynhonnell y llun, Martin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod wedi'r tirlithriad rhwng Corris a Minffordd

  • Cyhoeddwyd

Bydd y brif ffordd rhwng Machynlleth a Dolgellau yn parhau ar gau i deithwyr tan y flwyddyn newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau.

Bu'n rhaid cau'r A487 rhwng Corris a Minffordd am gyfnod fore Sadwrn 7 Rhagfyr ar ôl tirlithriad.

Ond oherwydd pryderon am "dir ansefydlog" uwchben y ffordd, cafodd ei chau eto rai dyddiau yn ddiweddarach.

Mae gwaith bellach wedi dechrau er mwyn "sicrhau diogelwch teithwyr".

Dywedodd y llywodraeth mewn datganiad mai diogelwch yw'r flaenoriaeth, a'u bod yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r llywodraeth ddim wedi cadarnhau dyddiad ar gyfer ailagor y ffordd ar hyn o bryd

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Diogelwch ar ein ffyrdd yw'r flaenoriaeth i ni.

"Er mwyn sicrhau diogelwch ar yr A487 yn Rhiw Gigan ger Corris, fe fydd gwaith yn dechrau ar system ddraenio dros dro wnaiff ein galluogi i ailagor y ffordd gyda rheolaeth traffig yn y flwyddyn newydd.

"Rydyn ni'n cydnabod y bydd hyn yn achosi anghyfleustra, ac rydyn ni'n ddiolchgar i yrwyr am eu hamynedd.

"Mae'n hanfodol fod y gwaith yma yn cael ei gwblhau er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd, ac i wneud yn siŵr ei fod yn parhau yn ddiogel yn y dyfodol."

Dydy'r llywodraeth ddim wedi cadarnhau dyddiad ar gyfer ailagor y ffordd, ond fe fydd rhagor o waith yn digwydd yn y flwyddyn newydd er mwyn gosod system barhaol.