Rhaid i'r eglwys 'wneud mwy' i ddiogelu pobl rhag cael eu cam-drin

Llun Andrew John
Disgrifiad o’r llun,

Mae Archesgob Cymru'n dweud bod angen i'r eglwys wneud mwy i sichrau diogelwch pobl yn dilyn cyfnod cythryblus i Eglwys Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Nid yw'r eglwys yn "gwneud digon" i amddiffyn pobl rhag cael eu cam-drin yn ôl Archesgob Cymru.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru fe ddywedodd Andrew John ei fod yn falch o'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddiogeli bobl ifanc o fewn yr eglwys, ond ychwanegodd bod angen 'gwneud llawer mwy eto'.

Daw ei sylwadau yn ystod cyfnod heriol i Eglwys Lloegr yn dilyn adolygiad damniol i'r ffordd yr oedd yr eglwys wedi cuddio sawl achos o gam-drin gan y bargyfreithiwr John Smyth.

Mae'r eglwys yng Nghymru ac Eglwys Lloegr yn sefydliadau cwbl annibynnol o'i gilydd. Mae gan yr Eglwys yng Nghymru chyfansoddiad a systemau llywodraethu ei hun.

'Angen sicrhau bod pobl ifanc yn saff'

Arweiniodd adroddiad annibynnol Makin at ymddiswyddiad ffigwr uchaf yr eglwys Anglicanaidd, Archesgob Caergaint Justin Welby.

Mae Archesgob Efrog Stephen Cottrell wedi wynebu galwadau iddo ymddiswyddo oherwydd y ffordd oedd e wedi delio gydag achos arall o gam-drin rhywiol o fewn y sefydliad.

Ddydd Mawrth, daeth cyhoeddiad bod cyn Archesgob Caergaint, George Carey, wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel offeiriad o fewn Eglwys Lloegr, yn dilyn ymchwiliad gan y BBC yn datgelu ei fod wedi cefnogi i David Tudor, sy'n wynebu honiadau o gam-drin plant, i'w ddychwelyd i'w rôl fel offeiriad

Pan ofynnwyd i Andrew John a oedd yn cefnogi'r galwadau i Archesgob Efrog Stephen Cottrell ymddiswyddo, dywedodd, "mae'n fater i Eglwys Lloegr."

Ond fe ddywedodd Archesgob Cymru fod angen i'r eglwys "gwneud mwy i sicrhau bod pobl ifanc yn saff."

Llun Andrew John
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew John wedi bod yn ei rôl fel Archesgob Cymru ers 2021

"Mae cyfiawnder yn beth wirioneddol bwysig, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y rhai sydd wedi dioddef unrhyw fath o gamdriniaeth yn cael eu clywed," meddai.

"Ar hyn o bryd dwi'n eitha hapus gyda'r strwythurau ond falle mai angen i ni aeddfedu. Mae'n rhaid i ni gyd gofalu dros bobl yn ein cymunedau, nid yr arbenigwyr yn unig."

Ychwanegodd, "Mae hwn wedi bod yn broblem enfawr ac wrth gwrs mae angen i ni sicrhau bod yr eglwys yn saff i'n bobl ifanc, a bod ni'n gallu darparu'r fath o wasanaethau sy'n ddiogel i bawb. Mae'n rhaid i ni neud mwy, does dim amheuaeth am hynny."

Doedd Eglwys Lloegr ddim am ymateb i sylwadau Archesgob Cymru.

Pynciau cysylltiedig