Cyhuddo dyn 21 oed o lofruddiaeth yng Nghasnewydd

Mae teulu Lee Crewe wedi ei ddisgrifio fel "dyn hyfryd, y tu mewn a thu allan"
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 21 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 36 oed yng Nghasnewydd.
Bu farw Lee Crewe ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Cas-gwent yn y ddinas.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r digwyddiad am tua 18:00 ddydd Mawrth, 14 Mai wedi adroddiadau bod dyn wedi ei anafu yn ddifrifol.
Mae'r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Mr Crewe yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.

Dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall fel rhan o'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Crewe
Mewn datganiad, mae teulu Mr Crewe wedi ei ddisgrifio fel "dyn hyfryd, y tu mewn a thu allan".
Mae'r teulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd Heddlu Gwent: "Ry'n ni'n cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Lee Crewe yn ystod y cyfnod yma.
"Fel rhan o'r ymchwiliad, hoffem siarad ag unrhyw un sydd â gwybodaeth neu fanylion all fod o ddefnydd."
Ychwanegodd y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall fel rhan o'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Crewe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024