Be' sydd angen ar Gymru i gyrraedd Cwpan y Byd?

Mae Craig Bellamy yn gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd yn ei ymgyrch ragbrofol gyntaf fel rheolwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfnod rhyngwladol diweddaraf wedi dod i ben - a tydan ni dal ddim llawer callach am obeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd 2026.
Mi gollodd tîm Craig Bellamy 1-0 yn erbyn Canada mewn gêm gyfeillgar yn Abertawe nos Fawrth.
Ond y gwir amdani ydi mai'r gemau rhagbrofol sydd o ddiddordeb mwyaf i'r cefnogwyr.
Mi fyddan ni'n gwybod mewn ychydig dros ddeufis a fydd Cymru wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd yn awtomatig ai peidio.
Os na fydd hynny'n digwydd, mi fyddan nhw yn y gemau ail-gyfle unwaith eto.
Gyda thair gêm yn weddill mae Cymru yn y trydydd safle yng Ngrŵp J.
Dyma be' sydd angen digwydd iddyn nhw gyrraedd yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico y flwyddyn nesaf.

Dyma sefyllfa Grŵp J fel mae'n sefyll
Be' nesaf i Gymru?
Gêm gyfeillgar yn erbyn yr hen elyn Lloegr yn Wembley, cyn gêm gwbl dyngedfennol yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd ar 13 Hydref.
Mi fydd Gwlad Belg yn mynd mewn i'r gêm honno ar ôl chwarae yn erbyn Gogledd Macedonia ym Mrwsel ar 10 Hydref.
Ar ôl wynebu Gwlad Belg, mi fydd Cymru'n gorffen eu hymgyrch ym mis Tachwedd gyda thaith i Liechtenstein cyn gêm gartref yn erbyn Gogledd Macedonia.
Bydd Gwlad Belg yn teithio i'r oerfel yn Kazakhstan ac yn wynebu Liechtenstein gartref, tra y bydd Gogledd Macedonia yn croesawu Kazakhstan i Skopje cyn y gêm yng Nghaerdydd.
Sut mae gorffen ar frig y grŵp?

Kevin De Bruyne yn sgorio'r gôl fuddugol i Wlad Belg yn erbyn Cymru ym mis Mehefin
Yn syml - os ydi Cymru am gyrraedd Cwpan y Byd yn awtomatig mae angen iddyn nhw ennill y tair gêm sydd ganddyn nhw'n weddill yn y grŵp.
Mae'r gêm gyfartal yng Ngogledd Macedonia a'r golled yng Ngwlad Belg yn golygu eu bod nhw angen i ganlyniadau eraill fynd o'u plaid yn ogystal.
Gan fod gwahaniaeth goliau Gwlad Belg lot yn well, mae angen i'r Belgiaid ollwng pwyntiau yn un o'u gemau eraill hefyd.
Mi fydd Cymru'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd yn erbyn Gogledd Macedonia ym Mrwsel, neu yn y gêm draw yn Kazakhstan lle y bydd hi'n rhewllyd o oer.
Felly i orffen ar frig y grŵp mae angen i Gymru eu tair gêm ragbrofol nesaf, ac mae angen i Wlad Belg golli neu gael gêm gyfartal yn erbyn unai Gogledd Macedonia neu Kazakhstan.
Y gemau ail-gyfle

Cymru'n dathlu cyrraedd Cwpan y Byd 2022 drwy'r gemau ail-gyfle
Mi fydd y freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd dal yn fyw hyd yn oed os y bydd Cymru'n gorffen yn ail neu'n drydydd yn y grŵp, a hynny oherwydd y gemau ail-gyfle.
Dyna sut y llwyddodd Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd Qatar yn 2022.
Mi fydd yr un fformat yn cael ei ddefnyddio y tro hwn - rownd gynderfynol dros un cymal, ac wedyn rownd derfynol hefyd dros un cymal.
Mae Cymru fwy neu lai yn saff o le yn y gemau ail-gyfle yn barod oherwydd eu bod nhw wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Ond gair o rybudd - os y bydd Cymru'n gorffen yn drydydd yn eu grŵp rhagbrofol yna mi fydden nhw ymhlith y detholion isaf yn y gemau ail-gyfle, fyddai'n golygu gêm yn erbyn un o'r prif ddetholion yn y rownd gynderfynol.
Sut bynnag 'da chi'n edrych ar bethau - mae 'na lot fawr yn y fantol yn y tair gêm ragbrofol nesaf i Craig Bellamy a'i dîm.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 Medi
- Cyhoeddwyd9 Mehefin