Canolfan yn Abertawe yn arloesi wrth hyfforddi gweithwyr iechyd y dyfodol

Dyma theatr sy'n edrych fel un go iawn wrth iddi gynnwys y sŵn a'r arogleuon
Disgrifiad o’r llun,

Dyma theatr sy'n edrych fel un go iawn wrth iddi gynnwys y sŵn a'r arogleuon

  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r gwasanaeth iechyd fod o dan gymaint o bwysau mae pwyslais mawr ar hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd.

Mae mynd i theatr llawdrinaethau neu uned gofal dwys am y tro cyntaf yn gallu bod yn brofiad brawychus ond mae canolfan trochi ym Mhrifysgol Abertawe yn efelychu y profiadau all ddigwydd fel bod myfyrwyr yn cael blas ar y gwaith cyn hyfforddi yn y gwasanaeth iechyd go iawn.

Cafodd y ganolfan, sy'n defenyddio modelau, ei sefydlu wedi buddsoddiad gwerth £7m i drawsnewid adeilad cyfan ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe ac mae ail safle yng Nghaerfyrddin.

Ein Gohebydd Iechyd Owain Clarke aeth yno.

Disgrifiad,

Cyfleusterau ar gyfer meddygon y dyfodol yn 'agoriad llygad'

Er bod goleuadau yn fflachio, larymau yn canu, a staff yn rhuthro o gwmpas rhaid i'r tîm llawfeddygol ganolbwyntio'n llwyr wrth iddyn nhw berfformio toriad cesaraidd er mwyn geni'r baban.

"Rwy' jyst yn aros iddo fe grio," medd y fydwraig ar ôl i'r llawfeddyg drosglwyddo'r baban iddi ac ychwanegodd "wedi hynny fe fyddai'n hapus".

Ar ôl sicrhau fod popeth yn iawn mae'r baban yn cael ei roi'n dyner ym mreichiau ei fam.

"Llongyfarchiadau!" medd y fydwraig ac mae'r rhyddhad yn amlwg i'w weld ar wynebau pawb - gyda'r tîm, mae'n ymddangos, wedi anghofio mai modelau meddygol yw'r fam a'r babi yn yr achos hwn.

Ymarferiad yw e, sy'n digwydd yn un o ystafelloedd Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi Prifysgol Abertawe (SUSIM).

Dywed Anneka Bell sy'n ddarlithydd bydwreigiaeth bod y ganolfan yn anhygoel
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Anneka Bell sy'n ddarlithydd bydwreigiaeth bod y ganolfan yn anhygoel

"Da chi'n gallu gweld mae'r offer i gyd gyda ni fan hyn, mae'r drapes i gyd i fyny a'r myfyrwyr yn eu scrubs ac yn defnyddio'r technegau fyddan nhw mewn theatr go iawn," medd y darlithydd bydwreigiaeth Anneka Bell - un o'r staff sy'n arwain y sesiwn.

"Ar y waliau hefyd ry'n ni'n gallu gweld delweddau gafodd eu ffilmio go iawn mewn theatr yn Ysbyty Glangwili.

"O'dd dim byd fel yr adeilad yma ar gael pan oeddwn i'n hyfforddi - rwy'n credu bod e'n anhygoel."

Mae'r safle ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe a'r ail safle yng Nghaerfyrddin wedi'u cysylltu yn ddigidol fel bod yr hyn sy'n digwydd yn y naill le yn gallu cael ei weld yn y llall.

O ganlyniad y ganolfan hon yw un o'r mwya' o'i math yn y byd.

Wrth i'r myfyrwyr ymateb i'w tasgau mae'r gwaith yn cael ei fonitro ar sgrin
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i'r myfyrwyr ymateb i'w tasgau mae'r gwaith yn cael ei fonitro ar sgrin

"Pan ddes i yma am y tro cyntaf roedd o'n agoriad llygad - nid jyst y dechnoleg ond y math o addysg allwn ni roi i'r meddygon drwy ddefnyddio'r dechnoleg," medd yr Athro Ffion Williams, Pennaeth Meddygaeth Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe.

"Mae'r myfyrwyr wrth eu bodd yn dysgu fan hyn a be da'n ni'n gweld hefyd rŵan yw bo ni'n gweld myfyrwyr sy'n ddoctoriaid yn dod 'nôl aton ni ac yn dweud: 'Da chi'n gwybod beth - mae'r profiadau nethoch chi roi i ni wedi bod yn andros o fudd i mi. Dwi'n teimlo yn fwy saff fel doctor o gael y profiadau yma'."

Rhys James
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd i Rhys James, sy'n hyfforddi fel parafeddyg, arogli'r gwair ar y cae rygbi ffug

Mae maint y ganolfan a'r dechnoleg sydd ynddi yn caniatáu i'r myfyrwyr brofi pob math o sefyllfaoedd y gallan nhw eu hwynebu yn ystod eu gyrfaoedd.

Mewn un ystafell mae criw o fyfyrwyr parafeddygol yn trin chwaraewr ar gae rygbi.

"Dyma Ffred sydd wedi bod yn chwarae rygbi a chael ei anafu ar ôl tacl galed," medd Rhys James sy'n fyfyriwr parafeddygol yn y flwyddyn gyntaf.

"Ry'n ni wedi dod mewn fel criw a rhoi coler arno fe i edrych ar ôl ei wddw a'i gefn ac wedi rhoi e mewn scoop er mwyn mynd â fe i'r ambiwlans."

Ond mae'r myfyrwyr yn gorfod gwneud hyn tra bo chwaraewyr rygbi yn rhedeg o'u hamgylch gyda'r dyrfa yn gweiddi a chanu yn y stadiwm o'u cwmpas.

Mae ymdrech y myfyrwyr  yn cael ei fonitro gan dechnegydd a darlithydd mewn ystafell gyfagos sy'n gallu addasu a newid y sefyllfa yn unol â sgiliau'r myfyrwyr.

Mae'r dechnoleg hyd yn oed yn caniatáu i arogl y gwair gael ei bwmpio mewn i'r ystafell.

Wrth ateb y cwestiwn am werth y cyfan atebodd Rhys: "I fod yn onest fi'n credu y byddwn ni'n barafeddygon gwell ar ôl cael y profiadau hyn.

"Dan ni'n gallu gwneud camgymeriadau yn fan hyn a dysgu o be dan ni'n neud.

"Felly os da ni'n mynd mas i achos fel Ffred yn y byd go iawn, da ni'n gwybod beth sydd angen ei wneud."

Lle mae Mam?

Tra bo'r myfyrwyr parafeddygol yn parhau i drin y chwaraewr rygbi mae myfyrwyr nyrsio mewn ystafell gyfagos yn edrych ar ôl merch saith mlwydd oed sydd â niwmonia.

Mae'r model y maen nhw'n gofalu amdani, nid yn unig yn edrych fel plentyn, ond yn gallu ymddwyn fel plentyn hefyd.

Mae'n galw "lle mae Mam?" yn aml ac yn cwyno ei bod hi'n ofnus am nad yw hi'n deall beth sy'n digwydd.

Aria
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aria sy'n fodel yn actio rôl merch saith oed sy'n sâl

Y nod fan hyn yw sgiliau penodol i'r myfyrwyr ar sut i gyfathrebu â chleifion ifanc.

"Felly mae ei llygaid hi yn symud ac mae'n bosib i ni edrych yn ei llygaid a gweld y pupils yn symud a ma' pulse gyda hi hefyd a ni'n gallu mesur hynny," medd Briall Llywelyn, myfyrwraig nyrsio yn ei hail flwyddyn.

"Ond yn fwy na hynny mae'n gallu siarad â ni ac ymateb i'n cwestiynau ni."

'Profiadau amhrisiadwy'

O ward mewn ysbyty i gartref gofal, o argyfwng ar ochr stryd, mewn caffi neu glwb nos i drin claf oedrannus yn ei gartref -  mae modd efelychu bron popeth yn y ganolfan.

Cafodd un ystafell ei throi, er enghraifft, i fod yn glinig yn Affrica yn ystod prosiect diweddar i hyfforddi myfyrwyr a staff iechyd o Zambia.

Ar ôl cael eu trochi yn y ganolfan fe fydd yn rhaid i'r myfyrwyr gael profiadau go iawn a chleifion go iawn ar leoliad yn y gwasanaeth iechyd cyn cymhwyso.

Yn ôl yr Athro Ffion Williams fe fydd hynny'n holl bwysig ond mae'n dadlau hefyd bod cyfarwyddo o flaen llaw â llefydd fel theatrau llawfeddygol unedau gofal dwys yn werthfawr.

"Mae'n amhrisiadwy. Dwi'n dod o oes lle dwi'n cofio mynd yn syth i'r wardiau neu'n syth i'r theatr heb gael profiad tebyg.

"A be sy'n digwydd yw 'dach chi'n poeni cymaint am y sefyllfa 'dach chi ynddo fo ac felly mae'n anodd trio cofio'r ffeithiau ac anodd trio cofio be 'dach chi fod i 'neud nesaf.

"Mae'n myfyrwyr ni yn dysgu'r ffeithiau mewn dosbarth, wedyn dod i le fel hyn a chael siawns i ymarfer mewn sefyllfa sy'n teimlo'n real iawn.

"Mae'n saffach i'r cleifion a saffach hefyd i iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr ni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.