Ymddiried yn awdur The Salt Path oedd 'camgymeriad mwyaf' teulu o Wynedd

Llun o'r teulu Hemmings yn dangos Ros (chwith) a'i gŵr Martin, fu farw yn 2012, gyda'u merch, Debbie (dde)
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Wynedd sy'n honni bod awdur The Salt Path wedi dwyn degau o filoedd o bunnoedd o fusnes ei diweddar dad wedi dweud fod y sefyllfa wedi ei "dorri".
Mae Debbie Adams a'i mam Ros Hemmings, o Bwllheli, yn honni bod Raynor Winn, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Sally Walker, wedi cael ei chyflogi i wneud cyfrifon y busnes ac wedi dwyn tua £64,000 - a bron wedi'u gwneud yn fethdalwyr.
Daw hyn yn dilyn ymchwiliad gan bapur newydd The Observer oedd yn cynnwys honiadau bod Ms Winn wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol am hanes ei bywyd hi a'i gŵr Moth yn ei llyfr The Salt Path.
Mae Ms Walker wedi galw adroddiad The Observer yn "gamarweiniol iawn" ac wedi gwrthod llawer o'r honiadau.
Beth ydy'r cefndir?
Mae The Salt Path yn adrodd hanes cwpl sy'n penderfynu cerdded Llwybr Arfordir de orllewin Lloegr, sy'n 630 milltir o hyd, ar ôl i'w cartref gael ei adfeddiannu ar ôl cytundeb busnes gwael.
Mae'r llyfr, gafodd ei gyhoeddi yn 2018, wedi'i addasu i fod yn ffilm yn ddiweddar gyda chast o actorion adnabyddus fel Gillian Anderson a Jason Isaacs.
Ond mae The Observer yn honni fod Ms Walker a'i gŵr, Tim Walker, sy'n cael ei adnabod hefyd fel Moth Winn, wedi colli eu cartref ar ôl iddi gymryd benthyciad i ad-dalu arian yr oedd wedi ei chyhuddo o ddwyn gan gyflogwr blaenorol, Martin Hemmings.
Mewn datganiad yn gynharach fis Gorffennaf, roedd Ms Walker yn mynnu bod y disgrifiad yn y llyfr o sut y daethon nhw i golli eu tŷ yn gywir, gan ychwanegu nad oedd yr anghydfod gyda'r Hemmings wedi arwain ati hi a'i gŵr yn colli eu cartref.

Cafodd llyfr Raynor Winn, neu Sally Walker (dde), The Salt Path ei wneud yn ffilm yn ddiweddar gyda Gillian Anderson (chwith) yn serennu ynddi
Roedd Martin Hemmings, fu farw yn 2012, yn berchennog cwmni eiddo a syrfëwr yng ngogledd Cymru ac yn dad i Debbie Adams ac yn ŵr i Ros Hemmings.
Daeth y fam a'r ferch i adnabod Tim Walker, gŵr Sally, pan oedden nhw'n gweithio yng ngerddi Plas yn Rhiw i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y 1990au.
Yna yn 2001, dywedodd y teulu fod Tim Walker wedi sôn bod ei wraig wedi colli ei swydd yn cadw cyfrifon i westy yn Abersoch.
"'Nath bookkeeper Dad ymddeol. A 'nath Mam ddod adra a deud wrth Dad 'o gwranda, mae gwraig Tim, mae hi'n cadw llyfrau'," meddai Debbie.
"'Sa hi'n gallu dod i weithio i'r swyddfa am un neu ddau ddiwrnod yr wythnos, i helpu ni allan."
Roedd hi'n gweithio yn y busnes am tua saith mlynedd, yn ôl y teulu, ac yn y cyfnod yma, maen nhw'n honni i bethau newid o fewn y busnes.
'Dad wedi torri'
Dywedodd Debbie Adams: "Doedd 'na ddim digon o bres. 'Naethon nhw gychwyn sbio 'nôl mewn i'r accounts a gweld bod 'na bres 'di mynd ar goll.
"Naw mil o bunnoedd i gychwyn 'nath nhw weld ddim wedi cael ei roi fewn i'r banc.
"'Nath [Dad] ffonio fi, oedd o mewn dagra'. Oedd o'n amser absolutely terrible i ni gyd," meddai.
"Cradur... doedd o [Dad] ddim yn dda yn gyrru'r bills allan... dwi'n cofio fo'n gwneud gwaith i bobl a dod adra a deud dwi 'di cael dau cimwch yn lle pres.
"O'n i jyst yn meddwl falla bod y bils ddim wedi cael eu gwneud, ddim wedi gal eu gyrru allan. Ond 'nath o ddweud 'na, na, dwi wedi bod yn gwneud oherwydd mae gen i'r staff i gyd i'w talu'."

Ros Hemmings a'i merch Debbie Adams yn edrych yn ôl ar luniau teuluol
Esboniodd Debbie Adams mai Ms Walker oedd yn gyfrifol am y gwaith papur yn y swyddfa, nid ei thad.
"Oedd o jest wedi'i thrystio hi ac am bod hi'n ffrind i'r teulu mewn ffordd o'dd o'n trystio hi. Oedd Dad yn ddyn trusting, oedd o'n trystio pawb.
"'Nath o dorri fo, 'nath o dorri fo. Oedd o [wedi mynd o fod yn] trystio pawb i fynd i drystio neb... o'dd o'n really anodd iddo fo drystio pobl."
Yn ddiweddarach fe ddaeth Ms Walker draw i gartref y teulu, meddai.
"Fe ddaeth Sally mewn i'r iard un bore ac mi oedd hi'n ddagrau mawr 'o dwi gorfod gwerthu pethau Mam fi i gael pres i dalu chi 'nôl, hyn ydy'r unig beth sy'n gennym ni, mae'n ddrwg gen i' a hyn a'r llall.
"Ond erbyn hyn oedd Dad wedi cael amser i ffonio'r heddlu ac fe ddy'don nhw 'wel cymerwch y pres 'falla hwn fydd yr unig beth fydd gennych chi ganddi yn ôl'."
Teimlo 'cywilydd'
Ar ôl cael cyngor gan yr heddlu, aeth Ros a Martin Hemmings drwy holl gyfrifon y busnes dros nifer o flynyddoedd.
Yn ôl teulu'r Hemmings, roedd £64,000 wedi mynd ar goll o'r busnes.
Wythnosau yn ddiweddarach, fe dderbynion nhw lythyr gan gyfreithiwr yn Llundain, yn cynnig ad-dalu'r arian a ffioedd cyfreithiol oedd tua £90,000.
Roedd yn cynnwys cytundeb i beidio mynd ar drywydd cyhuddiadau troseddol ac mi ddywedodd Ms Hemmings fod ei gŵr wedi ei lofnodi.
Dywedodd Debbie Adams: "'Naethon ni gytuno fel teulu os oeddan ni am gael y pres yn ôl... 'naethon ni gytuno i bedio mynd â'r camau ymlaen, oherwydd yn llyfrau ni, oedd bob dim wedi dod yn ôl at ei gilydd, oedd y pres yn ôl gyda ni, oedd hi 'di mynd, doedd 'na ddim gobaith ohoni hi yn 'neud dim byd arall i ni.
"So mewn ffordd, be 'nath hi, oedd yn beth erchyll... 'da ni'n deulu reit breifat, ac oedd gan Dad gywilydd bod hyn wedi digwydd, o'dd o jest isio sgwennu llinell a pheidio camu dros y llinell 'na."

Dyma'r tŷ oedd Tim a Sally Walker yn byw ynddo yn y gogledd
Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi fis Gorffennaf ar ôl erthygl yr Observer, a oedd yn cynnwys honiadau gan Ms Hemmings, cyfaddefodd Ms Walker ei bod wedi gwneud "camgymeriadau" yn gynharach yn ei gyrfa.
Dywedodd ei bod wedi dan bwysau, ac er iddi gael ei holi gan yr heddlu, ni chafodd ei chyhuddo.
"Unrhyw gamgymeriadau a wnes i yn ystod y blynyddoedd yn y swyddfa honno, rwy'n difaru'n fawr, ac mae'n ddrwg iawn gen i," meddai.
Dywedodd Ms Winn fod yr achos wedi'i setlo rhyngddi hi a'i chyn-gyflogwr ar "sail dim-cyfaddefiadau", oherwydd "nad oedd ganddi'r dystiolaeth angenrheidiol i gefnogi'r hyn a ddigwyddodd".
Dywedodd: "Roedd Mr Hemmings yr un mor awyddus i gyrraedd datrysiad preifat ag yr oeddwn i."
Fe roddodd BBC Cymru ymatebion Ms Walker i Debbie Adams.
Ymatebodd: "Ia, mae pawb yn gwneud camgymeriadau dydyn - rhoi ffeil yn lle wrong neu anghofio talu siec neu rywbeth... ond camgymeriadau o £64,000, mae hynna'n glamp o swm yndi.
"Dwi'n meddwl yr unig gamgymeriad 'naethon ni ydy cael hi fewn i'r swyddfa i wneud y gwaith."
Mae The Salt Path wedi gwerthu dros ddwy filiwn o gopïau ers ei gyhoeddi, ac mae'r awdur wedi ysgrifennu dau ddilyniant, The Wild Silence a Landlines.

Dywedodd Ros Hemmings (yma ar y dde gyda'i merch, Debbie) ei bod hi'n awyddus i siarad er mwyn rhoi "llais" i'w diweddar ŵr
Pan gyhoeddwyd y llyfr mi gafodd Debbie Adams a'r teulu dipyn o sioc.
"Roeddan ni (fel teulu) 'di rhoi o i gyd yn ei wely a 'di symud ymlaen nes i mi weld copi o'r llyfr The Salt Path ar fwrdd y bos.
"Ro'n i'n nabod (llun) y ddynes ar y cefn, o'dd hi 'di mynd yn hŷn.
"Nesh i roi'r llyfr i lawr a meddwl dim byd amdano fo, nes i fy chwaer ddeud wrtha i – wyt ti di gweld y llyfr yna – mae o gwmpas yn bob man meddai… rwyt ti'n gwybod pwy sydd di sgwennu fo dwyt?
"O'dd o fatha clic clic, dwi'n nabod yr wyneb yna – dyna be ydi o….
"O'dd fi a fy chwaer….ddim yn angry ond jest fatha – waw the audacity of it – a 'da ni wastad 'di meddwl ei bod hi wedi cychwyn ei bywyd a chychwyn ei bywyd newydd hi ar gelwydd a ma' hynna'n corddi tu mewn ar ôl 'chydig tydi."

Mewn datganiad yn gynharach fis Gorffennaf, roedd Sally Walker yn mynnu bod y disgrifiad yn y llyfr o sut y daethon nhw i golli eu tŷ yn gywir
Yn ei datganiad ym mis Gorffennaf dywedodd Ms Walker fod The Salt Path yn "ymwneud â'r hyn a ddigwyddodd i Moth a minnau, ar ôl i ni golli ein cartref a chael ein gwneud yn ddigartref".
"Nid yw'n ymwneud â phob digwyddiad neu foment yn ein bywydau, ond yn hytrach am gapsiwl o amser pan symudodd ein bywydau o le o anobaith llwyr i le o obaith."
Dywedodd teulu'r Hemmings nad oedd ganddyn nhw bellach unrhyw waith papur na chytundeb o'r cyfnod i gefnogi eu honiadau - er eu bod nhw wedi dweud bod eraill fel eu cyfreithiwr a oedd yn rhan o'r achos, Michael Strain, wedi cadarnhau eu honiadau fel rhan o ymchwiliad The Observer.
Dywedodd Ms Hemmings ei bod hi'n awyddus i siarad rŵan, er mwyn rhoi "llais" i'w diweddar ŵr.
"Ni allaf faddau iddi [Ms Walker] am ddinistrio hyder fy ngŵr mewn pobl, oherwydd fe wnaeth, ac rwy'n credu mai dyna'n rhannol pam na wnaethon ni siarad amdano," meddai Ms Hemmings.
"Roedd yn teimlo gymaint o embaras fod hyn wedi digwydd i'w fusnes."
Doedd Heddlu Gogledd Cymru ddim yn gallu cadarnhau na gwadu unrhyw fanylion ynglŷn â Ms Walker.
Pan ofynnwyd iddi am sylwadau, cyfeiriodd Raynor Winn y BBC at y datganiad a wnaeth hi ar 9 Gorffennaf.
Ychwanegodd Ms Winn "rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl negeseuon caredig o gefnogaeth gan ein darllenwyr".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.