Bachgen, 16, yn yr ysbyty ar ôl cael ei gicio gan geffyl

Torf fawr yn gwylio'r cyffro o'r Brif Gylch
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bachgen ei drin am anafiadau ar gaeau'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd (llun o fis Gorffennaf 2023)

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 16 oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei gicio gan geffyl yn ystod arwerthiant.

Cafodd y bachgen ei drin am anafiadau ar gaeau'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Sul.

Fe ddigwyddodd ar drydydd diwrnod Gwerthiant yr Hydref y Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig.

Cafodd y bachgen ei gludo mewn hofrennydd i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd yn dilyn y digwyddiad.

Y gred yw ei fod bellach mewn cyflwr sefydlog.

Mewn datganiad, roedd y Gymdeithas a'r arwerthwyr, McCartney's, am ddiolch i bawb wnaeth roi cymorth yn ystod y digwyddiad.