Y Cymro a fu bron yn Arlywydd

Charles Evans HughesFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Donald J. Trump wedi ei urddo fel Arlywydd yr Unol Daleithiau am yr ail dro, gyda seremoni fawr yn Washington yr wythnos yma. Ond ychydig dros ganrif yn ôl roedd gŵr o dras Cymreig yn agos iawn at gipio'r swydd.

Ganwyd Charles Evans Hughes — a oedd, yn ôl rhai, yn siaradwr Cymraeg rhugl — yn Efrog Newydd ar 11 Ebrill, 1862, i rieni Cymreig. Roedd ei dad yn weinidog Methodistaidd o Dredegar a symudodd i America yn 1855.

Wedi gyrfa lwyddiannus gyda'r gyfraith cafodd Hughes ei ethol fel Llywodraethwr dros dalaith Efrog Newydd.

Roedd Yr Athro Iwan Morgan yn arbenigwr ar Astudiaethau Americanaidd ac yn bennaeth Rhaglenni'r Unol Daleithiau yn Institute of the Americas yn UCL (University College London). Mae bellach wedi ymddeol.

"Mae Hughes yn ffigwr allweddol yn hanes gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn nhraean cyntaf yr 20fed ganrif," meddai.

"Er nad oedd yn Arlywydd roedd yn Llywodraethwr ar dalaith Efrog Newydd, Ysgrifennydd Gwladol ac yn Chief Justice yr Unol Daleithiau, felly roedd e'n ffigwr enfawr yng ngwleidyddiaeth y wlad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Charles Evans Hughes yn annerch drof fawr yn Efrog Newydd

Etholiad 1916

Charles Hughes oedd yr ymgeisydd ar ran y Gweriniaethwyr yn yr etholiad am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau ar 7 Tachwedd, 1916. Ond colli wnaeth Hughes yn erbyn ymgeisydd y Democratiaid, a'r Arlywydd ar y pryd, Woodrow Wilson.

Roedd yn etholiad agos lle cafodd Wilson 49.2% o'r bleidlais, gyda 46.1% yn mynd i Charles Hughes. Enillodd Hughes bron yr holl seddi yng ngogledd-ddwyrain y wlad.

"Mae 1916 yn etholiad diddorol iawn, achos roedd disgwyl i Charles Hughes ennill," meddai'r Athro Iwan Morgan. "Enillodd Woodrow Wilson yn 1912 am fod y bleidlais Weriniaethol wedi'i rhannu, rhwng yr Arlywydd Gweriniaethol, William Howard Taft, a Theodore Roosevelt a oedd yn Weriniaethol ond yn sefyll yn enw y progressive.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Charles Evans Hughes gyda'r cyn-Arlywydd, William Howard Taft, ar y ffordd i dŷ haf Hughes yn Bridgehampton, Efrog Newydd, 30 Mehefin, 1916

"Enillodd Wilson gyda 43% o'r bleidlais yn 1912, ac felly roedd disgwyl i Hughes, gyda chefnogaeth Roosevelt, ennill yr etholiad yn 1916.

"Canlyniad Califfornia a olygodd mai colli wnaeth Charles Hughes yn 1916. Rhaid cofio nad oedd radio na theledu y dyddiau hynny ac fe gymrodd amser hir i gyfri'r bleidlais yng Nghaliffornia. Aeth Charles Hughes i'w wely ar noson yr etholiad gan gredu y byddai'n deffro y bore wedyn yn Arlywydd ar yr Unol Daleithiau.

"Ond er mawr syndod iddo, a bron pawb arall, fe aeth y bleidlais yn Califfornia yn ei erbyn.

"Mae chwedl mai'r person a stopiodd Hughes rhag dod yn Arlywydd oedd y Senator Gweriniaethol progressive a oedd yn flin gyda Hughes yn dilyn cyfarfod cyhoeddus, ac yna dywedodd wrth ei gefnogwyr i bleidleisio i'r Democratiaid yn erbyn Hughes."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Charles Evans Hughes gyda'i wraig, Antoinette Carter

Ysgrifennydd Gwladol

Yn dilyn y golled yn 1916 cafodd Hughes ddau dymor fel Ysgrifennydd Gwladol. Tra yn y swydd, fe gyfarfu Hughes â David Lloyd George yn 1923 - yr unig dro i'r Cymro ymweld ag America.

Siaradwr Cymraeg oedd yn Brif Weinidog ar Awstralia ar y pryd hefyd, Billy Hughes, a'i dad yn dod o Gaergybi. Felly pe byddai Charles Hughes wedi ennill yr etholiad yn 1916, mae'n debyg y byddai cyfarfodydd rhwng arweinwyr yr Unol Daleithiau, Awstralia a Phrydain wedi'u cynnal yn y Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod ei yrfa fe gafodd Charles Evans Hughes sawl swydd nodedig: Llywodraethwr Efrog Newydd o 1907 i 1910, Ysgrifenydd Gwladol o 1921 i 1925 a Phrif Ustus yr Unol Daleithiau o 1930 i 1941

Penodwyd Hughes i'r Uchel Lys a rhwng Chwefror 1930 a Gorffennaf 1941 ef oedd Prif Ustus (Chief Justice) y wlad. Cafodd frwydr enwog gyda Franklin D Roosevelt am ba mor gyfansoddiadol gywir oedd Cytundeb Newydd (The New Deal) yr Arlywydd.

Roedd gan Hughes Gymro-Americanwr arall, Owen Roberts o Pennsylvania, fel dirprwy iddo. Wedi gyrfa wych yn y byd academaidd a chyfreithiol cafodd Roberts ei benodi'n bennaeth ymchwiliad i'r sgandal Teapot Dome yn y 1920au. Yno cafodd yr enw The Fighting Welshman, tra roedd yn ymchwilio i lygredd gwleidyddol ac economaidd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Charles Evans Hughes gyda'i wraig a'u tair merch yn 1916. Roedd mab ganddynt hefyd, Charles Evans Hughes jr. Nid yw yn y llun.

Roedd gwreiddiau Cymreig Roberts yn bwysig iddo ac yn 1929 fe brynodd fferm yn Pennsylvania a'i alw'n Bryncoed.

Roedd dynion eraill yn ymwneud â materion cyfreithlon y wlad, ond am gyfnod ar ddiwedd y 1930au y ddau yma o dras Gymreig, Hughes a Roberts, oedd yn gyfrifol am warchod cyfansoddiad yr Unol Daleithiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Charles Evans Hughes (ar y chwith) yn ei rôl yn seremoni urddo Franklin D Roosevelt fel Arlywydd, 4 Mawrth, 1933

Bu farw Charles Evans Hughes ar 27 Awst 1948 yn 86 oed yn Osterville, Massachusetts. Mae wedi ei gladdu yn y Bronx, Efrog Newydd.

Prif Ustus yr Unol Daleithiau heddiw yw John Glover Roberts Jr. Ac i barhau traddodiad Charles Hughes ac Owen Roberts, mae yntau o dras Cymreig hefyd.

Mae llawer o'r wybodaeth yn yr erthygl yma'n dod o erthygl Cymru Fyw o 2016.

Pynciau cysylltiedig