CNC am weld grŵp lleol yn perchnogi Canolfan Ynys-las
- Cyhoeddwyd
Roedd dros 70 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus nos Lun i drafod dyfodol y ganolfan ymwelwyr yn Ynys-las ger y Borth, Ceredigion.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud eu bod am roi'r gorau i redeg y cyfleusterau arlwyo a’r siop yn Ynys-las ac mewn dwy ganolfan ymwelwyr arall - Bwlch Nant yr Arian yng Ngheredigion, a Choed y Brenin yng Ngwynedd - o fis Mawrth 2025.
Mae’r penderfyniad yn rhan o newidiadau ehangach i strwythur CNC a fydd yn torri swyddi er mwyn arbed £12m.
Ond yn ôl deiseb a gafodd dros 13,000 o lofnodion gan gefnogwyr y canolfannau, byddai hynny “yn cael effaith negyddol ar yr economi leol, yr amgylchedd a llesiant cymunedol.”
'Dal yn rhwystredig'
Mewn cyfarfod tanbaid nos Lun dywedodd rhai aelodau o’r cyhoedd wrth staff CNC nad oedden nhw’n ymddiried yn y sefydliad a bod dicter nad yw CNC wedi ymgysylltu â phobl leol am ddyfodol y ganolfan.
Dywedodd staff CNC nad oedden nhw’n gallu trafod gyda’r cyhoedd tra bod ymgynghoriad gyda staff ac undebau yn parhau.
Mae’r broses honno bellach wedi dod i ben ac mae CNC yn dweud eu bod am i grŵp cymunedol gymryd cyfrifoldeb am ganolfan ymwelwyr Ynys-las o ddechrau mis Ebrill, tra bydd yn chwilio am bartneriaid masnachol ar gyfer y ddwy ganolfan arall.
Dywedodd Polly Ernest o ymgyrch achub canolfan ymwelwyr Ynys-las ei bod hi yn dal i deimlo’n rhwystredig ar ôl y cyfarfod.
“Dydyn ni ddim yn gwybod beth maen nhw hyd yn oed yn ei gynnig i grŵp cymunedol - oherwydd ar y naill law fe ddywedon nhw eu bod yn bendant yn is-gontractio’r maes parcio i rywun arall.
"Ac yna fe ddywedon nhw, ‘O, wel, efallai y gallwch chi gymryd y maes parcio os mai dyna beth ry’ch chi eisiau.’”
Dywed CNC y bydd newidiadau i’w strwythur yn golygu y gall ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth – helpu adfer natur, mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau llygredd.
Mae hefyd yn dweud, er ei fod yn rhoi’r gorau i ariannu'r siopau a'r caffis, bydd cyfleusterau eraill ar y tri safle - sy'n cynnwys llwybrau beicio a cherdded, mannau chwarae, maes parcio a thoiledau - yn parhau ar agor.
Dywedodd Mary-Ellen Harvey ei bod yn gobeithio y bydd CNC yn trosglwyddo’r canolfannau ymwelwyr i weithredwyr newydd cyn diwedd mis Mawrth.
“Y risg, rwy’n meddwl, i bob un o’r tair canolfan yw os nad ydyn nhw yn cael eu defnyddio mewn unrhyw ffordd, yna byddan nhw’n dirywio o ran eu cyflwr.
"Ry’n ni'n byw yng Nghymru, mae'n bwrw glaw, mae'n llaith - mae angen i adeiladau gael llif aer trwyddyn nhw i oroesi.
“Rwy’n credu y dylen nhw fod yn symud yn gyflym nawr i wneud yn siŵr nad yw’r safleoedd hyn yn cau ar 31 Mawrth dim ond er mwyn ailagor rywbryd arall yn y dyfodol.”
CNC i dynnu 233 o swyddi o'u strwythur
Cafodd y newidiadau i strwythur CNC eu cyhoeddi ar 6 Tachwedd ar ôl iddyn nhw gael eu cymeradwyo gan fwrdd CNC.
Dywed y corff gwarchod amgylcheddol y bydd y newidiadau yn “symleiddio ei weithgareddau” ac yn “ysgogi buddion hirdymor i amgylchedd naturiol Cymru”.
Maen nhw’n bwriadu tynnu 233 o swyddi o'u strwythur. Dywed CNC fod 113 o’r rolau hyn eisoes yn wag, sy’n golygu bod hyn yn effeithio ar 120 aelod o staff.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Hughes sy’n cynrychioli’r Borth ar Gyngor Ceredigion ei fod yn poeni am yr effaith ar yr amgylchedd o beidio â chael digon o staff yn Ynyslas.
“Mae gen i amheuon os nad oes ganddyn nhw staff yno’n barhaol, am y difrod a fydd yn cael ei achosi yno gan bobl sydd, ar hyn o bryd, yn cael eu cynghori gan y staff sy’n gweithio yno ynglŷn â sut i ymddwyn.
“Os nad yw’r staff yno, rwy’n bryderus beth fydd yn digwydd i agweddau amgylcheddol Ynys-las a’r warchodfa natur hardd yno.”
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd1 Awst 2024
Dywedodd staff CNC wrth y cyfarfod fod costau staffio’r tair canolfan tua £800,000 y flwyddyn a bod diffyg o £67,000 yn cael ei ragweld ar gyfer Ynyslas eleni.
Mae CNC bellach yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan grwpiau cymunedol i ymgymryd â rhedeg canolfan ymwelwyr Ynyslas gan ddweud ei fod wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r gweithredwr cywir i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy o ansawdd uchel.
Mae dau gyfarfod cyhoeddus arall yn cael ei gynnal yn y dyddiau nesaf.