Tîm dros 70 oed Cymru yn ennill Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Dyw Cymru ddim yn cyrraedd ffeinal Cwpan y Byd unrhyw gamp yn aml, felly roedd 'na reswm i ddathlu ddydd Gwener wrth i ddau dîm o Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Pêl-droed y Byd i Bobl Hŷn.
Llwyddodd tîm y dynion dros 70 oed i drechu tîm Freddyfund o'r Unol Daleithiau ar giciau o'r smotyn i ennill y tlws.
Ond siom oedd hi yn y ffeinal i'r tîm dros 75 oed, a gafodd eu trechu ar giciau o'r smotyn gan Loegr.
Caerdydd oedd yn cynnal y cystadlaethau, ac felly roedd torf gartref yno i gefnogi'r Cymry.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys gwledydd o ar draws y byd, gan gynnwys Yr Almaen a Norwy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2023