'Bron â boddi' wedi ysbrydoli'r cyfansoddwr, Paul Mealor

Paul MealorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mealor

  • Cyhoeddwyd

Paul Mealor yw un o gyfansoddwyr byw mwyaf poblogaidd Cymru.

Yn 2011, cyfansoddodd y gerddoriaeth i'r gân Wherever You Are, gan gôr y Military Wives, a oedd yn rhif 1 yn y siartiau dros y Nadolig.

Ynghyd â chyfansoddi nifer o weithiau corawl a cherddorfaol amrywiol, cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer priodas y Tywysog William a Thywysoges Catherine a seremoni goroni'r Brenin Charles III.

Y llynedd, cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, a gafodd ei sefydlu gan y cyfansoddwr William Mathias yn 1972.

Yma mae'n sôn am ei brofiad 'ysbrydol' a ddechreuodd y cyfan a sut mae ei gariad tuag at Gymru yn ymddangos yn ei holl gyfansoddiadau.

O ble ddaeth y diddordeb mewn cyfansoddi?

'Nes i ddechrau cyfansoddi yn naw oed. Ges i brofiad 'ysbrydol' ar ôl i mi bron â boddi mewn afon yn Din Lligwy.

Ar ôl hynny aeth fy nhad â fi i Eglwys Gadeiriol Llanelwy i siarad â'r Deon, a phan o'n i yno, 'nes i glywed y côr yn ymarfer ac o'n i'n cael fy nhynnu at y gerddoriaeth.

Dechreuodd o i gyd fan'na. 'Nes i ymuno â chôr y Gadeirlan a'r band pres lleol a dwi heb edrych nôl.

Ai cyfansoddi oedd y nod, yn hytrach na pherfformio?

Ia, o'n i wastad eisiau trio ailgreu'r teimlad 'na ges i yn yr afon... Cynhesrwydd a theimlad dwfn o timelessness.

I mi, roedd cyfansoddi fel petai yn cynnig y cyfle yna i mi, ond o'n i hefyd eisiau dysgu i chwarae offeryn ac i ganu hefyd.

Mae cerddoriaeth yn rhywbeth sydd yn codi rhywun pan ti'n ei wneud gyda phobl eraill.

Disgrifiad,

Bryn Terfel yn canu Kyrie Eleison gan Paul Mealor yn seremoni goroni'r Brenin Charles III ym mis Mai 2023 - y tro cyntaf i'r Gymraeg gael ei chynnwys mewn seremoni goroni

Sut ydych chi'n mynd ati i ddechrau cyfansoddi darn o gerddoriaeth, ac o ble daw'r awen?

Dwi'n cyfansoddi am ryw bedair neu bump awr bob dydd. Dwi'n dechrau o ble 'nes i orffen y diwrnod cynt.

Roedd Roald Dahl yn dweud 'writing happens at the desk' ac mi oedd o'n iawn! Rwyt ti angen ysbrydoliaeth ond ti hefyd angen ymdrech. Mae'n rhaid i ti weithio'n galed iawn ar yr alawon, y melodïau a chyfansoddi ar gyfer offerynnau.

Fel arfer, dwi'n cael ysbrydoliaeth pan dwi'n mynd am dro hir; dwi wrth fy modd yn cerdded, a phan dwi wrthi'n edmygu harddwch Cymru, dwi'n gweithio alawon a melodïau allan yn fy mhen hefyd.

Sut mae eich Cymreictod yn dylanwadu ar eich cerddoriaeth?

Mae'n effeithio ar bopeth. Y diwylliant, pŵer canu yn ein gwlad, llawenydd cerddoriaeth... maen nhw i gyd yn ffeindio'u ffordd i fy ngherddoriaeth, dwi'n gobeithio.

Hyd yn oed pan o'n i'n byw yn Yr Alban am ugain mlynedd, ro'n i'n breuddwydio am Gymru. Mae 'na deimlad o heddwch a hiraeth sydd i gyd o amgylch yr enaid Gymreig ac mae hynny'n dod mewn i ngherddoriaeth.

Pa ddarn o gerddoriaeth rydych chi wir yn falch o fod wedi ei gyfansoddi a pham?

Fy symffoni gyntaf, mae'n siŵr, sydd yn waith mawr, awr o hyd ar gyfer côr a cherddorfa. Roedd yn sicr y peth mwyaf o'n i wedi ei ysgrifennu ar y pryd ac mae'n dweud yn union beth dwi eisiau iddo ei ddweud. Cerddoriaeth o'r galon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Paul (dde) gyda Gareth Malone a rhai o aelodau'r côr Military Wives. Enillodd y gân Wherever You Are wobr sengl y flwyddyn yng Ngwobrau'r BRITs Clasurol yn 2012

Beth ydy eich hoff ddarn o gerddoriaeth gan gyfansoddwr arall?

Dwi wrth fy modd gyda cherddoriaeth sydd wedi cael ei dylanwadu gan gerddoriaeth werin neu ddiwylliant y wlad lle cafodd ei hysgrifennu, felly mae'r cyfansoddwr o'r Ffindir, Jean Sibelius, yn un o fy ffefrynnau.

Mae ei concerto i'r feiolin yn dechrau gyda sibrydion o gân werin Ffinaidd. Mae'n toddi fy nghalon bob tro dwi'n ei glywed.

Beth ydych chi'n ei wneud yn eich amser sbâr?

Mae cerdded ym myd natur a physgota yn bwysig i mi, a dwi'n mwynhau hwylio mewn cwch camlas. Ac mae unrhywbeth yn agos at y môr yn rhoi llawer o bleser i mi.

Ar drothwy Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2024 - y cyntaf gyda chi wrth y llyw - beth yw eich gobeithion i'r digwyddiad eleni ac ar gyfer y dyfodol?

Mae'n anhygoel o arbennig i mi ddychwelyd i lle 'nes i dyfu fyny ac i barhau'r gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud yma dros gymaint o flynyddoedd gan gymaint o bobl.

Fy ngobaith yw, wrth gwrs, y bydd yr ŵyl yn ffynnu, datblygu ac yn parhau i ddod â cherddoriaeth o'r safon uchaf i ogledd Cymru!

Pynciau cysylltiedig