Tri dyn yn y llys ar gyhuddiad o herwgipio yn Llanybydder

Heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Heddlu yn yr ardal ar ôl y digwyddiad dydd Llun, Awst 26

  • Cyhoeddwyd

Mae tri dyn wedi ymddangos yn y llys yn dilyn ymosodiad ar ddyn ger Llanybydder, Sir Gaerfyrddin.

Mae'r tri wedi'u cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad ac un cyhuddiad o herwgipio.

Cafodd person ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau yn dilyn yr ymosodiad ddydd Llun, 26 Awst.

Erbyn hyn mae’r dyn wedi cael mynd adref ar ôl derbyn triniaeth.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Sadwrn, siaradodd Mohammad Comrie, 22 oed o Leeds, Faiz Shah, 22 oed o Bradford, ac Elijah Ogunnubi-Sime o Wallington, 20 oed, i gadarnhau eu henwau llawn, dyddiadau geni a chyfeiriadau yn unig.

Mae’r tri wedi’u cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Abertawe eto ar 30 Medi.