Tri dyn wedi'u cyhuddo o herwgipio yn Llanybydder
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo o herwgipio yn dilyn digwyddiad yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin.
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn ardal Brynteg, Llanybydder ddydd Llun yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddyn oedd wedi teithio i'r ardal.
Cafodd person ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau, ond mae bellach wedi cael mynd adref ar ôl cael triniaeth.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod y tri dyn, un yn 20 oed a dau ddyn arall yn 22 oed, wedi eu harestio ar yr un diwrnod ac wedi eu cyhuddo o herwgipio ac o achosi anaf corfforol difrifol yn fwriadol.
Mae'r ymchwiliad yn parhau er mwyn darganfod beth ddigwyddodd.
Bydd plismyn ychwanegol yn yr ardal wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu â'r heddlu.