Buddugoliaethau gwych i Gaernarfon a Chei Connah yn Ewrop

Zack ClarkeFfynhonnell y llun, CBDC/Sam Eaden
Disgrifiad o’r llun,

Zack Clarke yn dathlu rhwydo ail gôl Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Cafodd Caernarfon a Chei Connah fuddugoliaethau gwych nos Iau i ddechrau eu hymgyrchoedd yng Nghyngres Europa, ond colli oedd hanes Y Bala.

Roedd Caernarfon yn croesawu'r Crusaders o Ogledd Iwerddon i Stadiwm Nantporth ym Mangor yng nghymal cyntaf y rownd ragbrofol gyntaf.

Hon oedd gêm gyntaf erioed y Cofis mewn cystadleuaeth Ewropeaidd, ond o fewn pum munud roedden nhw ar y blaen ar ôl ergyd wych o bellter gan Morgan Owen.

Fe wnaeth Zack Clarke ddyblu'r fantais yn dilyn pas wych gan Darren Thomas, a 2-0 oedd y sgôr terfynol.

Ffynhonnell y llun, CBDC/NIK MESNEY
Disgrifiad o’r llun,

Cei Connah yn dathlu sgorio unig gôl y gêm yn Slofenia

Fe gafodd Cei Connah fuddugoliaeth wych 0-1 oddi cartref yn erbyn NK Bravo - y pedwerydd tîm gorau yn Slofenia y tymor diwethaf.

Daeth yr unig gôl bum munud o'r diwedd, gyda Ben Maher yn rhwydo wedi i ergyd wreiddiol daro'r trawst.

Ond colli oedd hanes Y Bala, fu'n herio clwb Paide o Estonia, a hynny yn stadiwm y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt - Neuadd y Parc.

Sgoriodd Abdoulie Ceesay a Predrag Medić i'r ymwelwyr, ond fe lwyddodd i Josh Ukek rwydo o'r smotyn yn yr eiliadau olaf i'r Bala, wrth i Paide ennill 1-2.

Bydd ail gymal y gemau yn cael eu chwarae yr wythnos nesaf, gyda'r enillwyr dros ddau gymal yn sicrhau eu lle yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Fe wnaeth y Seintiau Newydd ennill eu cymal cyntaf nhw yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr o 3-0 yn erbyn pencampwyr Montenegro, FK Dečić, nos Fawrth.