Galw am warchod enwau Cymraeg mewn chwareli
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn poeni y gallai enwau Cymraeg hanesyddol ar gyfer rhannau o chwareli gogledd Cymru ddiflannu.
Cafodd hynny ei drafod mewn digwyddiad ger cofgolofn Cleddyf Llyn Padarn yn Llanberis brynhawn Sul, gafodd ei drefnu i nodi 150 mlynedd ers sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cofio'r tua 1,500 o ddynion gafodd eu lladd yn chwareli gogledd orllewin Cymru.
Mae Cyngor Mynyddau Prydain yn dweud eu bod nhw'n credu bod angen gwarchod enwau Cymraeg hanesyddol ar ardaloedd penodol ond yn dweud bod gwahaniaeth rhwng hynny ac enwau ar gyfer llwybrau cerdded newydd.
Mae ymgyrchwyr yn dweud bod yr enwau Cymraeg ar gyfer ardaloedd o fewn y chwareli - y ponciau a'r sinciau - wedi cael eu disodli gan enwau Saesneg gan ddringwyr sy'n creu llwybrau dringo newydd.
Y ponciau yw'r enw a roddwyd i'r platfformau roedd y chwarelwyr yn eu naddu yn wyneb y graig lechen, ac o'r ponciau hyn roedd y chwarelwyr yn gweithio i dorri'r llechi.
Grŵp Eryri Wen wnaeth drefnu'r digwyddiad brynhawn Sul, ac un a ddaeth i gefnogi oedd Anita Butler.
""Dwi'n meddwl bod o'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'r hen enwau Cymraeg.
"Dydi pobl leol a phobl yr ardal chwarel ddim yn licio clywed enwau fel Mordor a Watfard Gap, achos dydyn ddim yn golygu dim i ni."
Eglurodd Ms Butler o le ddaeth rhai o'r enwau traddodiadol: "Roedd y chwarelwyr wedi bod yn y rhyfel mawr ac yn dod ag enwau gwledydd a phobl yn ôl efo nhw.
"Roedd fy nhaid weithiau yn sôn am gerdded o'r 'Aifft' i 'Mesopotamia' - hynny yw, cerdded rhwng dwy bonc."
Ychwanegodd nad oes modd gorfodi pobl i ddefnyddio'r hen enwau, er mor "grêt" fyddai gweld mwy yn eu defnyddio.
Fe wnaeth Fred Buckley o Dregarth ddechrau gweithio yn Chwarel y Penrhyn ym 1949 pan yn 15 oed.
Dywedodd fod y gwaith yn "galed ofnadwy" ac yn "beryglus" ond fod treulio amser yn gwrando ar y dynion hŷn yn siarad yn y cytiau yn "well coleg na gewch chi fyth".
Ond doedd gan Mr Buckley ddim teimladau cryf ynglŷn â pha enwau oedd yn cael eu defnyddio.
"S'gen i'm barn arbennig am y peth, ond i ni fel Cymry, enwau Cymraeg sy' 'di cael eu rhoi i'r galeries 'ma erioed," meddai.
"Os ydyn nhw isio newid nhw, dio'm lawer o otsh gen i chwaith."
Roedd teuluoedd rhai o'r bobl gafodd eu lladd tra'n gweithio yn y chwareli yn y digwyddiad yn Llanberis brynhawn Sul.
Yn ogystal â'r oddeutu 1,500 o ddynion gafodd eu lladd mewn ffrwydradau ac wrth i greigiau gwmpo, mae 'na amcangyfrif bod miloedd yn rhagor wedi marw o’r clefyd yr ysgyfaint silicosis ar ôl gweithio mewn pyllau llychlyd.
Cafodd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ei sefydlu ym Mehefin 1874 i gynrychioli chwarelwyr oedd yn gweithio ar gyflogau isel ac mewn amodau anodd.
'Cefnogi’r egwyddor o warchod enwau Cymraeg'
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Mynydda Prydain eu bod "yn cefnogi’r egwyddor o warchod a chadw enwau Cymraeg ar gyfer nodweddion daearyddol yng Nghymru."
"Rydym wedi mabwysiadu'r defnydd o Eryri a Bannau Brycheiniog fel enwau swyddogol y parciau cenedlaethol hyn yn unol â'r egwyddor hon.
"Yn yr un modd, rydym yn cefnogi cadw enwau lleoedd Cymraeg ar gyfer orielau Chwareli Dinorwig a chwareli llechi eraill a ddefnyddir ar gyfer dringo.
"Fodd bynnag, mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng yr enwau a roddwyd eisoes i rai o nodweddion y chwarel gan chwarelwyr a'r rhai a roddwyd ar gyfer llwybrau penodol i fyny wynebau'r creigiau gan ddringwyr dros y blynyddoedd."
Dywedodd Tom Carrick o'r Cyngor: “Ar ôl tyfu i fyny gyda’r Gymraeg a byw yng Ngwynedd, am y rhan fwyaf o’m bywyd, mae’n aml yn fy nhristau i weld y gwrthdaro rhwng fy mamiaith a dringo, fy angerdd a gyrfa sydd i gyd yn rhyng-gysylltiedig.
"Mae’n bwysig cofio ein hanes, ond hefyd bod dringo wedi dod â diwydiant cwbl newydd i’r ardal ac ystyron newydd i’r llinellau a’r profiadau sydd gan ddringwyr."
Mewn datganiad pellach yn dilyn hynny, dywedodd Cyngor Mynydda Prydain (BMC): "Yn dilyn y cynnwrf diweddar ynghylch enwi chwareli llechi Dinorwig, mae’r BMC am bwysleisio ein bod yn ymroddedig i, ac yn gefnogol i’r defnydd o enwau Cymraeg hanesyddol pob rhan o’r chwareli.
"Mae’r BMC yn awyddus i archwilio ffyrdd o greu cofnod o wybodaeth hanesyddol ac enwau sy’n dogfennu’n gywir ac yn rhannu’r traddodiadau a’r enwau a roddir gan y rhai a fu’n ymwneud â’r diwydiant chwareli am nodweddion daearyddol, agweddau unigryw ar y diwylliant cenedlaethol arwyddocaol hwn, a thraddodiadau’r cyfnod, a hanes mwy diweddar dringo.
"I gyflawni’r nod hwn rydym yn gweithio gyda Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddatblygu ein strategaeth, ac i gefnogi’r Rhestr Statudol o Enwau Lleoedd Hanesyddol.
"Gobeithiwn y bydd y gwaith a wneir ar hyn o bryd yn annog dringwyr a mynyddwyr y dyfodol i chwilio am y wybodaeth am enwau hanesyddol ar draws y byd cyn ychwanegu enwau newydd lle mae rhai sydd wedi’u rhoi’n lleol yn bodoli eisoes."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021