Hufenfa Mona ym Môn yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae hufenfa adnabyddus ym Môn wedi cyhoeddi eu bod wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Fis Mai, fe wnaeth Hufenfa Mona gyhoeddi eu bod yn wynebu trafferthion ariannol ac nad oedd modd i'r cwmni barhau i weithredu yn ei ffurf bresennol
Fe agorodd y ffatri gaws gwerth £20m - sy'n cynhyrchu amrywiaeth o gawsiau Cymreig a chyfandirol - ar safle Parc Diwydiannol Mona ger Gwalchmai dwy flynedd yn ôl.
Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd Hufenfa Mona fod Anthony Collier a Phil Reynolds wedi eu penodi yn weinyddwyr a'u bod yn gyfrifol am reoli materion yn ymwneud â'r cwmni.
Cafodd y gweinyddwyr eu penodi ar 7 Mehefin, ac maen nhw'n dweud eu bod yn ystyried sawl opsiwn ar gyfer dyfodol y busnes a'u bod yn bwriadu cysylltu gyda chredydwyr.
Wedi'r cyhoeddiad ym mis Mai fe ddywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Hufenfa Mona, Ronald Akkerman, eu bod "wedi gwneud ein gorau i ddatblygu'r ffatri brosesu caws orau a'r fwyaf modern a chynaliadwy i'n ffermwyr ac i Gymru, ac mae hi'n ofnadwy nad ydyn ni wedi llwyddo i wneud hynny.
"Roeddwn ni mor agos, ond dyw agos ddim wedi bod yn ddigon," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai