A470: Teyrnged i feiciwr modur 'poblogaidd a chariadus' fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Shaun Dufty yn dod o Upton-Upon-Severn yn Sir Gaerwrangon, Lloegr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar yr A470 rhwng Rhaeadr a Llangurig am tua 08:55 ar 8 Hydref.
Bu farw Mr Dufty - oedd yn gyrru beic modur - yn y fan a'r lle.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ei fod yn "fab, gŵr, taid, brawd ac ewythr cariadus".
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
"Roedd ganddo gylch mawr o ffrindiau... roedd yn aelod poblogaidd o ddau grŵp o feicwyr modur... ac yn rhywun oedd yn mwynhau ei fywyd i'r eithaf," meddai'r teulu.
"Roedd Shaun yn ddyn y gellid ymddiried ynddo, ac rydyn ni wedi ein llorio gan y golled ofnadwy yma."
Mae ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys yn parhau.
Maen nhw'n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o ddefnydd, neu a oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd, i gysylltu â nhw.