Cadi Fôn: Sut mae trawsnewid bywyd un cam ar y tro

Cadi FônFfynhonnell y llun, Cadi Fôn
  • Cyhoeddwyd

Diffyg hunan-hyder sy’n rhwystro‘r rhan fwyaf o bobl rhag trawsnewid eu bywydau efo ymarfer corff, yn ôl yr hyfforddwr personol Cadi Fôn.

Mae’r fam 39 oed o Gaernarfon yn mynd i fod yn arbenigwr ffitrwydd ar gyfres trawsnewid iechyd newydd ar S4C o’r enw Tŷ FFIT, lle fydd hi’n rhannu ei 20 mlynedd o brofiad yn helpu pobl fel hyfforddwraig personol.

Meddai mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw: “Diffyg hyder ydy’r rhwystr pennaf. Mae pobl yn meddwl bod nhw'n methu 'neud o, ddim yn gwybod beth i 'neud, wedi cael profiad drwg yn yr ysgol efo ymarfer corff.

“Dwi’n meddwl fod lot o bobl yn rhoi barriers i’w hunain achos fod gynno nhw ddim yr hyder. Dwi’n gwybod bod o’n costio pres i gael hyfforddwr personol ond mae’n gwneud lles i gael rhyw fath o arweiniad os da chi’n teimlo bod chi ddim yn gwybod beth i wneud neu’n ansicr.”

Ynghyd â’r maethegydd Angharad Griffiths, rôl Cadi yn y gyfres deledu newydd fydd hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw ac arferion bwyta gwell ar gyfer y pum unigolyn sy’n cymryd rhan.

Meddai Cadi, sy’n rhedeg stiwdio ffitrwydd Braf yn Ninas Dinlle: “Mae'n deimlad cyffrous iawn - mae o'n bob dim dwi’n goelio ynddo a bob dim dwi’n trio rhoi drosodd yn y sesiynau dwi’n 'neud fel rheol so mae'n grêt cael gwneud i gynulleidfa mwy.

Ffynhonnell y llun, Cadi Fôn

“Y peth pwysigaf dwi’n dweud yn fy sesiynau ydy ‘da ni’n rhoi'r wybodaeth a’r sgiliau a trio ffeindio allan beth mae pobl yn fwynhau so mae pobl yn gallu cael bywydau mwy actif.

“’Da ni’n rhoi'r sail a nhw sy’n cario ymlaen. Dydy o ddim am weiddi ar bobl a dweud wrthyn nhw be’ i 'neud – mae o am roi y profiad a’r wybodaeth i nhw gael beth maen nhw isho allan ohono fo a 'neud o’n rhywbeth maen nhw’n mwynhau.

“Dyna sy’ bwysicaf – os ydy rhywun yn mwynhau bod yn actif a’r math o ymarfer corff maen nhw’n 'neud, mae’n nhw’n mynd i gario mlaen i 'neud o.”

Newid

Bydd Cadi a’r arbenigwyr eraill yn cydweithio gyda’r pum unigolyn er mwyn adeiladu patrwm o arferion da, fel mae’n esbonio: “Y prif beth ydy profiad positif a selio arferion da.

“Mae o’n broses graddol. ‘Da ni’n dechrau efo techneg ymarferion, gofyn i nhw 'neud ychydig bach o bethau maen nhw’n enjoio - falle mynd am dro neu ddosbarth ioga.

“Mae 'na ran mawr yn mynd i fod yn ymarferion bach fedrith pobl 'neud bob diwrnod fel mynd allan i’r awyr agored, yfed mwy o ddŵr.

"Da ni’n 'neud o mewn ffurf habit stacking felly un ar y tro nes bod toolbox o habits sy’n ran o dy ddiwrnod di. Dyna ydy’r peth pwysica’, bod o’n doable a’n gweithio o gwmpas bywydau pobl ac yn dod yn ran naturiol o fywyd.

“Mae bron fel yswiriant i’r dyfodol achos mae gymaint o bobl yn meddwl, dwi’n safio pres at fy mhensiwn. Dwi’n gweld symud a iechyd mor bwysig â hynny achos beth yw’r pwynt cael pres yn y banc os chi isho mynd i chwarae golff ond methu mynd i chwarae golff? Neu os 'da chi isho mynd i drafeilio ond methu mynd i drafeilio a’n mynd allan o wynt pan chi'n cerdded?

“Mae gofalu ar ôl eich iechyd yn bwysicach na’r ochr pres o ran meddwl am y dyfodol.”

Amser

Mae Cadi’n gweithio efo nifer o gleientiaid fel rhan o’i gwaith bob dydd ac yn credu’n gryf fod prysurdeb bywyd yn cael effaith wael ar iechyd pobl: “Beth dwi’n weld ydy bod pobl yn rhy brysur, ddim yn gwneud amser iawn ac yn bwyta ar y go.

“Ac mae lot o bobl dwi’n gweithio efo wedi tyfu fyny yn diet culture yr 1980au a’r 1990au lle mae pwysau mawr ar deiet a bod yn strict, cyfri calorïau.

“Mae’n anodd iawn cael allan o hwnna, mae’n cymryd lot o waith. Mae cymaint o bobl yn dweud 'dwi wedi cael donut neithiwr a bydd rhaid i fi weithio’n galed rŵan' a bod yn rili cas efo’u hunain.”

Ffynhonnell y llun, Cadi Fôn

Y trawsnewidiadau mwyaf dramatig mae Cadi wedi gweld yn ei gyrfa yw mewn merched hŷn sydd ddim wedi codi pwysau o’r blaen: “Mae gweld bod nhw’n gallu codi pwysau a bod codi pwysau ddim yn rhywbeth scary na drwg sy’n mynd i 'neud i ti gael muscles mawr. Dyna oedd y meddylfryd ers talwm.

“Mae’n sioc – maen nhw’n meddwl na fyddan nhw’n mwynhau codi pwysau trwm ond maen nhw’n dda ynddo fo ac maen nhw’n cryfhau.

“Hynna ydy’r trawsnewid mwyaf, o ran meddylfryd yn hytrach na’r corff. Os ti’n cael hynna a ti wedi cael rhywbeth maen nhw’n mynd i 'neud a chario mlaen, yna mae’r trawsnewid corff a cholli pwysau yn byproduct o hynna. Ond ddim hynna ydy’r gôl.”

Mae Cadi wrth ei bodd yn gweld pobl yn trawsnewid eu bywydau: “Dwi’n teimlo’n lwcus iawn – mae’n deimlad mor dda pan ti’n gweld rhywun yn ffeindio rhywbeth maen nhw’n mwynhau 'neud ac dwi’n gwybod fod y person 'na’n mynd i fod yn fwy actif a’n hapusach.

“Rhoi'r hwb ydw i mwy na dim byd – nhw sy’n 'neud y gwaith a bod nhw’n gweld fi fel rhywun i guidio yn hytrach na deud wrthyn nhw be' i wneud.”

Cyngor Cadi

  • O ran trawsnewid, darganfod rhywbeth ‘da chi’n mwynhau – mae pawb yn mwynhau rhywbeth. Mae lot o bobl yn meddwl fod angen rhedeg i golli pwysau ond y peth mwya’ effeithiol ydy rhywbeth ‘da chi’n mwynhau ac yn cario mlaen i 'neud.

  • Un peth sy’n gweithio’n dda ydy ffeindio ffrind neu rhywun sy’ isho 'neud yr un fath â chi. Chi llawer mwy tebygol o ddod (i’r sesiwn) neu chi’n gadael rhywun arall i lawr.

  • Gwnewch newidiadau bach un ar y tro yn lle trio newid bob dim yn syth. Efo bwyd, bwytwch bwyd 'da chi'n mwynhau. Yn lle meddwl beth ‘da chi ddim yn cael, meddyliwch am beth chi isho bwyta mwy ohono a beth sy’n rhoi maeth i chi.

  • Symudwch mwy fel rhan o fywyd – dydy o ddim yn gorfod bod yn sesiwn ymarfer corff. Meddyliwch am y pethau bach fedrwch chi wneud yn y dydd fel bod chi’n gorfod symud mwy.

Bydd Tŷ FFIT yn cychwyn ffilmio ym mis Medi.

Pynciau Cysylltiedig