Lluniau: Afonydd a llynnoedd Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae Eryri'n enwog am ei golygfeydd godidog - y mynyddoedd a'r dyffrynnoedd, yr afonydd a'r llynnoedd.
Dyma gasgliad o luniau gan y ffotograffydd Mike Alexander, sy'n byw yn Eryri.

Llyn Cwm Bychan yn ardal y Rhinogydd

Afon Glaslyn, sy'n dechrau dan Yr Wyddfa ac yn llifo'r holl ffordd i ardal Minffordd a Phorthmadog

Afon Idwal, sy'n llifo rhwng Llyn Idwal a Llyn Ogwen

Llyn Dinas, sydd i'r gogledd-ddwyrain o bentref Beddgelert

Llynoedd Cregennan uwchben Dolgellau yn Sir Feirionnydd

Llyn Gwynant, ble cafodd rhannau o'r ffilm Lara Croft Tomb Raider: The Cradle of Life (2003) ei ffilmio

Yr olygfa i fyny Afon Mawddach tuag at fynyddoedd de Eryri

Llyn a phentrefan Tal-y-Llyn, ar ochr ddeheuol Cader Idris

Llyn Idwal yn ardal mynyddoedd y Glyderau

Afon Mawddach, sy'n dechrau ger mynydd Y Dduallt ger pentref Rhyd-y-Main, ac sy'n cyrraedd y môr ger Y Bermo

Llyn Cau, yng nghysgod Cader Idris

Llyn Teyrn; un o dri llyn sydd o fewn pedol Yr Wyddfa, ynghyd â Llyn Glaslyn a Llyn Llydaw

Un arall o Lyn Gwynant, sydd i'r de o fynydd Y Lliwedd

Llyn Llydaw, gyda chopa'r Wyddfa yn y pellter

Llyn Ogwen. Gorweddai'r llyn mewn dyffryn rhwng mynyddoedd y Carneddau i'r gogledd a'r Glyderau i'r de

Afon Dwyryd, sy'n llifo drwy Maentwrog ac sy'n cyrraedd y môr yn ardal Morfa Bychan
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd16 Mai