Cymru i ddefnyddio gofal iechyd preifat i leihau rhestrau aros
- Cyhoeddwyd
Bydd gofal iechyd preifat yn cael ei ddefnyddio er mwyn ceisio lleihau rhestrau aros GIG Cymru, yn ôl yr ysgrifennydd iechyd.
Dywedodd Jeremy Miles y bydd £50m yn cael ei roi i fyrddau iechyd i fynd i'r afael â rhestrau aros, gan ddarparu mwy o driniaethau, profion ac apwyntiadau.
Mae wedi addo y bydd 16,000 yn fwy o bobl yn cael eu trin erbyn diwedd Mawrth 2025, gydag ysbytai preifat yn cael eu defnyddio pan fo angen.
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llafur o orfod rhoi mwy o arian tuag at iechyd am eu bod wedi "camreoli" y GIG.
Fe wnaeth y blaid lansio ei chynllun ei hun ddydd Mawrth i fynd i'r afael â phroblemau llywodraethiant o fewn y GIG.
Galwodd am gyfres o newidiadau, gan gynnwys tynnu'r penderfyniadau ar roi byrddau iechyd mewn mesurau arbennig oddi ar wleidyddion.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Hydref, mae mwy nag erioed o bobl ar restrau aros yng Nghymru, gyda dros 800,000 o driniaethau eto i'w cwblhau.
Mae 169,000 o'r rheiny wedi bod yn aros dros flwyddyn, a 24,000 wedi aros dros ddwy flynedd.
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi fis Hydref y byddai £28m yn cael ei roi i fynd i'r afael â rhestrau aros, a daeth cyhoeddiad yng nghynhadledd Llafur Cymru dros y penwythnos y bydd £22m yn ychwanegol ar ben hynny.
Yn siarad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles y bydd yr arian ar gael i fyrddau iechyd yn syth "er mwyn gweld mwy o bobl, a ble fo'n addas, defnyddio capasiti ysbytai preifat i atal pobl rhag aros yn hir".
Dywedodd y byddai'r arian yn golygu y bydd modd cynnig 14,000 yn fwy o brofion a 20,000 yn fwy o apwyntiadau erbyn diwedd Mawrth 2025.
'Wedi galw am hyn ers tro'
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands wedi croesawu defnydd o'r sector preifat.
"Dydw i ddim yn siŵr a fydd eich cyd-weithwyr yn hapus am hynny, ond mae'n rhywbeth rydyn ni wedi galw amdano ers tro," meddai.
Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, eu bod yn croesawu unrhyw gamau i leihau rhestrau aros ond bod yr angen i ddefnyddio gwasanaethau preifat yn "arwydd o'r 25 mlynedd o fethiant o ran buddsoddi yn y gweithlu a sicrhau bod gennym ystâd sy'n addas i'r 21ain ganrif."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd
- Cyhoeddwyd24 Hydref