Eluned Morgan: £22m ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwasanaeth iechyd yn cael £22m yn ychwanegol i fynd i'r afael â rhestrau aros.
Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi'r arian ychwanegol yn ei chynhadledd gyntaf fel arweinydd Llafur Cymru yn Llandudno ddydd Sadwrn.
Wrth annerch y gynhadledd mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi dweud y bydd yn parhau i "amddiffyn penderfyniadau'r Gyllideb i'r eithaf".
Yn ei haraith hi, cyhoeddodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru, cronfa werth £13m i helpu gweithwyr dur Tata ddechrau busnesau eu hunain.
Hon hefyd oedd cynhadledd Gymreig gyntaf Syr Keir Starmer fel Prif Weinidog y DU, wrth iddo ddweud bod "cyfnod newydd o newid" i Gymru.
Fe wnaeth gadarnhau £160m ar gyfer ardal fuddsoddi yng ngogledd-ddwyrain Cymru - addewid cafodd ei wneud gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd
- Cyhoeddwyd24 Hydref
Cipiodd Llafur 27 o'r 32 o seddi yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol fis Gorffennaf ond mae misoedd cyntaf y llywodraeth newydd wedi bod yn heriol.
Mae ymateb chwyrn wedi bod gan y gymuned amaethyddol i newidiadau i dreth etifeddiaeth gafodd eu cyhoeddi yn y Gyllideb gan Rachel Reeves fis diwethaf.
Ond dywedodd Syr Keir Starmer: "Mi wna'i amddiffyn wynebu'r realiti ariannol, amddiffyn penderfyniadau anodd oedd yn angenrheidiol i sefydlogi'r economi ac amddiffyn diogelu cyflogau gweithwyr."
Rhestrau aros
Yn ei haraith, dywedodd Eluned Morgan bod y £22m ychwanegol i fynd i'r afael â rhestrau aros.
Mae'r arian yn ychwanegol i'r £28m gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar.
"Gallaf ddweud gyda sicrwydd bod angen mwy o adnoddau," meddai.
"Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn mynd tuag at sicrhau bod mwy o lawdriniaethau yn cael eu gwneud drwy ehangu capasiti triniaeth a sicrhau nad oes rhaid i gleifion aros am gyfnodau hir ar gyfer tiniaethau a all wella ansawdd eu bywyd yn sylweddol."
Mae rhestrau aros yng Nghymru wedi parhau i gynyddu ers iddi ddod yn arweinydd, ac maen nhw bellach ar eu lefelau uchaf erioed.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur yng Nghymru y bydd Prif Weinidog Cymru'n pwysleisio "grym y bartneriaeth rhwng dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio i gyflawni dros bobl Cymru".
Mae'r arian i helpu gweithwyr dur Tata yn rhan o gronfa gwerth £80m gan Lywodraeth y DU i helpu'r 2,800 o bobl sy'n colli eu swyddi ac i helpu'r gadwyn gyflenwi yn yr ardal i ymdopi.
Caeodd y ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot yn y misoedd diwethaf ac fe fydd ffwrnais drydan yn cael ei hadeiladu yn eu lle - ond ni fydd angen cymaint o weithwyr i'w redeg.
Dywedodd Jo Stevens: "Fe wnaethon ni ddweud y bydden ni’n cefnogi gweithwyr a busnesau y mae’r newidiadau ym Mhort Talbot wedi effeithio arnyn nhw, ac rydyn ni wedi rhyddhau dros £26m ers mis Gorffennaf er mwyn gwneud hynny.”
Dyma'r trydydd gwaith i'r gynhadledd gael ei threfnu ar ôl iddi gael ei symud ddwywaith oherwydd yr Ymchwiliad Covid a'r Etholiad Cyffredinol.
Mae wedi bod yn gyfnod cythryblus i'r blaid Lafur yng Nghymru gyda thri arweinydd mewn blwyddyn.
Dim arian o gynllun rheilffordd HS2 i Gymru
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer wedi dweud na fydd Cymru yn cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth y DU o gynllun rheilffordd cyflym HS2 Lloegr, ond ei fod wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch ariannu rheilffyrdd.
Wrth siarad ar raglen Wales Today ddydd Gwener, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan y byddai'n parhau i "ymladd dros Gymru".
"Rydym yn cynnal trafodaethau difrifol gyda nhw am fwy o wario ar seilwaith ar gyfer trenau. Dyna'r hyn sydd yn fy niddori i, y rheilffyrdd a'r sgyrsiau, a gallaf gadarnhau eu bod yn parhau".
Fe wnaeth Syr Keir Starmer hefyd amddiffyn newidiadau i dreth etifeddiaeth ffermwyr gan ddweud na fydd “y mwyafrif helaeth” o ffermwyr Cymru yn cael eu heffeithio gan y newid.
Mae cyhoeddiad y Canghellor, Rachel Reeves, yn y Gyllideb yn ddiweddar yn golygu na fydd £1m cyntaf unrhyw ystâd yn cael ei drethu, ond fe fydd yn rhaid talu treth o 20% dros gyfnod o 10 mlynedd ar unrhyw swm ar ben hynny.
Dywedodd, mewn “achos arferol” bod trothwy o £3m cyn y byddai unrhyw dreth etifeddiaeth amaethyddol yn cael ei thalu.
"Dwi ddim yn meddwl y bydd y rhan fwyaf o ffermwyr yn cael eu heffeithio o gwbl".
"Mae 'na drothwy o £1m ar gyfer y fferm, ond mae 'na hefyd drothwyon ychwanegol rhwng parau," meddai.