'Mwy wedi dod drwy ddrysau'r Llyfrgell Gen y llynedd nag ers 2011'

Llyfrgell Gen
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer cynyddol yn ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn ôl prif weithredwr y sefydliad

  • Cyhoeddwyd

Mae gofod newydd wedi agor ym Mae Caerdydd lle gall ymwelwyr gael blas ar fwy na chanrif o ddarllediadau teledu a radio gan BBC Cymru, ITV Cymru, ac S4C.

Mae'n rhan o strategaeth newydd y Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer 2025-30.

"Mae 'da ni gyfrifoldeb mawr i ddiogelu, meithrin, tyfu a rhannu casgliadau gyda phobl Cymru ond cyfrifoldeb mwy byth i fod yn ein cymunedau," meddai Rhodri Llwyd Morgan, prif weithredwr y Llyfrgell Gen.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, ychwanegodd Dr Morgan bod nifer cynyddol yn ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Dywedodd fod y sefydliad wedi gwneud llawer o waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wneud yr adeilad yn "fwy hygyrch a deniadol".

Ond mae'r Corneli Clip fel yr un ym Mae Caerdydd yn "rhoi budd a manteision cwbl newydd i bobl Cymru mewn ffordd ni ddim wedi ei weld o'r blaen", meddai.

£15m i gael 'effaith sylweddol'

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi £15m i'r celfyddydau yng Nghymru fel rhan o'u cynllun blaenoriaethau.

Wrth wneud y cyhoeddiad, cadarnhaodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, y bydd y cyllid - o'r Gyllideb Derfynol ddiweddar - yn cael ei rannu'n ddwy brif ffrwd:

  • £8m ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol sector y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru

  • £7m o gyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, y celfyddydau a'r amgylchedd hanesyddol

"Mae'r buddsoddiad hwn o £15m yn darparu cyllid hanfodol i gefnogi ein huchelgeisiau diwylliannol a bydd yn cael effaith sylweddol ledled Cymru," meddai Mr Sargeant.

Bydd y cyllid yn cefnogi sawl blaenoriaeth allweddol, meddai, fel gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc; mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a darparu adnoddau i helpu'r sector i gyflawni sero net; datblygu sgiliau; gwella mynediad a gwella digidol.

Fis Chwefror wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd y cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol, yr Athro Pedr ap Llwyd, ei fod yn poeni mai "prin iawn yw'r ymchwilwyr a'r academyddion sy'n defnyddio adnoddau'r Llyfrgell Genedlaethol erbyn hyn".

Ond fore Mawrth dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan bod mwy wedi dod drwy ddrysau'r Llyfrgell Genedlaethol y llynedd nag ers 2011.

Ychwanegodd ei fod yn diolch i Lywodraeth Cymru am arian brys i drwsio'r to wedi Storm Kathleen a bod y gwaith yn golygu eu bod yn gallu cwrdd â'r gofyn amgylcheddol o fod yn sero net erbyn 2030 os nad yn gynt na hynny.

"Mae'r to bellach yn ddiogel ac arno 40,000 o lechi o Flaenau Ffestiniog a ni hefyd wedi gallu symud ymlaen gyda'r cynlluniau datgarboneiddio drwy gael 297 o baneli ychwanegol," meddai.

Llyfrgell GenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ers y dyddiau cynnar mae llawer o waith wedi'i wneud i sicrhau fod y Llyfrgell Genedlaethol yn "hygyrch a pherthnasol"

Dywedodd Dr Morgan hefyd ei fod yn edrych ymlaen at y cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu storfeydd newydd yn y llyfrgell.

Ond yr hyn sy'n allweddol, meddai, yw ein "bod ni'n mynd allan i gymunedau yn fwy nag erioed o'r blaen".

"Ni'n darparu casgliadau a phrofiadau digidol i bobl ar raddfa uwch nag erioed o'r blaen.

"Mae'r gwaith ni'n gwneud gyda WICI yn un esiampl lle mae darluniau digidol o'r llyfrgell wedi cyrraedd [gwefan] Wikipedia ac wedi cael eu gweld 1.5 biliwn o weithiau - mae hynna'n rho syniad i chi beth yw gwaith y llyfrgell yn fyd eang a dyna yw'n cenhadaeth."