'Dim digon o academyddion yn defnyddio'r Llyfrgell Genedlaethol'

Roedd Pedr ap Llwyd yn brif weithredwr ac yn Llyfrgellydd Cenedlaethol rhwng 2019-24
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol yn galw ar fwy o academyddion ac ymchwilwyr i ddefnyddio adnoddau'r Llyfrgell yn Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Pedr ap Llwyd - a oedd yn brif weithredwr a phrif lyfrgellydd tan fis Mai 2024 - mai "prin iawn yw'r ymchwilwyr a'r academyddion sy'n defnyddio adnoddau'r Llyfrgell Genedlaethol erbyn hyn".
Fe ddywedodd hefyd ei fod yn "cyfaddef fy mai" am "chwarae gormod i ffidil y llywodraeth" yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.
Yn ôl un academydd blaenllaw a phrif lenor dyw'r "Llyfrgell ddim yn weithle bellach i academyddion wrth eu proffes ac mae hynny'n gwanhau apêl y lle i ymwelwyr academaidd".
Dywed llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol bod llawer mwy o bobl wedi defnyddio eu hadnoddau, gan gynnwys yr Ystafell Ddarllen, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Mae sectorau diwylliannol, celfyddydau a chwaraeon Cymru yn gwneud cyfraniad cymdeithasol ac economaidd hanfodol i'n cymdeithas," medd Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn ymgynghori ar strategaeth newydd ar gyfer 2025 i 2030, dolen allanol ac yn croesawu barn pobl cyn 21 Chwefror
Daw sylwadau'r Athro Pedr ap Llwyd yn sgil colli'r ysgolhaig yr Athro Geraint H Jenkins "oedd yn ddefnyddiwr cyson a ffyddlon o adnoddau'r llyfrgell".
Mae casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnwys 7 miliwn o lyfrau a phapurau newydd, 1.5 miliwn o fapiau, 950,000 o ffotograffau a 40,000 o lawysgrifau - y casgliad mwyaf a phwysicaf o lawysgrifau Cymraeg a Chymreig yn y byd.
Mae'n llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod ganddi hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon.
"Mae rhywun yn gorfod gofyn iddo fo'i hun sut fath o ymchwil neu academyddion sydd gynnon ni yng Nghymru heddiw os nad ydyn nhw'n gwneud defnydd helaeth o'r Llyfrgell Genedlaethol," meddai'r Athro ap Llwyd.
'Llyfrgell ddim mwy na stordy'
Dywed Dr Eurig Salisbury ei fod ef a'i gydweithwyr yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Aberystwyth yn treulio cymaint o amser â phosib yn darllen llyfrau a llawysgrifau yn y Llyfrgell.
Mae'n ychwanegu bod y staff yno yn weithgar a charedig ac wedi'i helpu droeon i ddod o hyd i ddeunydd ond yn gofyn a allai'r Llyfrgell feddwl am ffyrdd i ddenu academyddion.
"A siarad o safbwynt fy maes i, sef llenyddiaeth Gymraeg a'r llawysgrifau, y gwir amdani yw bod dad-academeiddio araf wedi bod ar waith yn y Llyfrgell ers degawdau.
"Ar un adeg, cyn fy amser i, gallai ymchwilydd fynd yno a chael cyngor arbenigol ar lu o wahanol feysydd yn ymwneud â chasgliadau'r Llyfrgell.
"Nid yw'r staff presennol heb eu harbenigeddau, yn sicr, ond dyw'r Llyfrgell ddim yn weithle bellach i academyddion wrth eu proffes.
"Mae hynny'n gwanhau apêl y lle i ymwelwyr academaidd ac, yn fwy difrifol, yn gwanhau'r gymuned academaidd yn ehangach ac yn gwneud y Llyfrgell yn ddim mwy na stordy i ymchwilwyr daro i mewn iddo, mewn a mas, yn hytrach nag yn gyfnewidfa syniadau."

Mae Dr Eurig Salisbury yn un o ddefnyddwyr cyson y Llyfrgell Genedlaethol
Mae Dr Eurig Salisbury yn galw hefyd am gynnal arolwg o'r llyfrau sydd ar silffoedd agored y Llyfrgell Genedlaethol.
"Dwi'n amau'n fawr a yw cynnwys y silffoedd sy' â llyfrau yn fy maes i wedi newid rhyw lawer ers yr 80au!" meddai.
"Fyswn i'n fwy na pharod i helpu gyda'r gwaith o ailstocio'r adran honno â llyfrau defnyddiol i bawb sy'n ymchwilio i lenyddiaeth Gymraeg cyn 1800, sy'n gystal lle â'r un i ddechrau arni."
Llyfrgell: 'Mwy yn yr Ystafell Ddarllen'
Dangosodd adolygiad yn 2020, dolen allanol, y mwyaf diweddar, bod nifer y rhai oedd yn defnyddio'r Llyfrgell Gen rhwng 2012-2019 wedi gostwng 54% - o 31,189 yn 2012-13 i 14,240 yn 2018-19.
Ond roedd yna gynnydd o 31% yn y nifer o bobl a gysylltodd a safleoedd digidol y llyfrgell - o 1.26m yn 2015-16, i 1.65m yn 2018-19.
Ers hynny mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi uno'r ddwy ystafell ddarllen, wedi agor yr Archif Ddarlledu Genedlaethol ac wedi cynnal sawl arddangosfa bwysig a phoblogaidd.
Ond mae'n rhaid cofio mai "llyfrgell ydan ni a'n bod yn ffynhonnell ysgolheigaidd hynod o bwysig", meddai'r Athro ap Llwyd, sydd hefyd wedi'i ethol yn aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Dywed llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol eu bod wedi croesawu yn 2024 y niferoedd uchaf o ymwelwyr i'r safle yn Aberystwyth ers 2010, gyda 85,300 o bobl yn dod trwy'r drysau.
"Roedd cynnydd o 23% yn nifer defnyddwyr yr Ystafell Ddarllen rhwng 2022 a 2024 ac mae ein hadnoddau digidol yn rhan hanfodol o'r darlun, gyda datblygiadau arwyddocaol fel digido Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn rhoi mynediad at hanes pobl o bob rhan o Gymru, ac Archif Ddarlledu Cymru sydd â bron i hanner miliwn rhaglen wedi eu digido, yn cynyddu y deunydd sydd ar gael ar gyfer ymchwil.
"Cafodd ein hadnoddau ar-lein dros 1.8 miliwn o ymweliadau yn 2023-24 ac yn yr un cyfnod cafodd cynnwys digidol ehangach y Llyfrgell ar Wikipedia ei weld 207 miliwn o weithiau," ychwanegodd llefarydd.
'Canran fach sydd wedi'i digido'
Roedd cyfnod Covid yn anodd i'r Llyfrgell Genedlaethol ond fe gyflymodd y broses o ddigideiddio ac "fe wnaeth hynny dalu ar ei ganfed", meddai'r Athro ap Llwyd.
"Mae safon yr hyn sydd wedi cael ei ddigido yn hynod o uchel ac mae ysgolheigion yn gallu gwneud defnydd o hynny o bell," meddai.
"Ond rhaid pwysleisio mai canran fach o gasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol sydd wedi'u digido a'r peryg ydy bod yr ymchwil, yr ysgolheictod, wedi ei sianelu at y deunydd hwnnw'n unig.
"Fy neges i academyddion ac ysgolheigion yw peidiwch â dibynnu'n ormodol ar yr hyn sydd wedi'i ddigido - ewch i'r Llyfrgell Genedlaethol, ewch i'r Amgueddfa a defnyddiwch yr adnoddau craidd sydd yn y sefydliadau yma er mwyn cyfoethogi ysgolheictod Cymru."
'Pwysau i chwarae i ffidil y llywodraeth'
Ym mis Rhagfyr 2023 cafodd Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol wybod eu bod yn wynebu gostyngiad o 10.5% yn eu cyllid – y toriad mwyaf yn eu hanes.
I'r Llyfrgell Genedlaethol roedd hynny yn doriad o £1.3m ac roedd yna groeso i'r £3.7m gafodd ei roi i'r Llyfrgell a'r Amgueddfa yn 2024 i ariannu gwaith atgyweirio brys a gwella sut mae casgliadau'n cael eu storio.
Mae nifer yr ymwelwyr yn bwysig i Lywodraeth Cymru a gan mai nhw yw prif ffynhonnell incwm y Llyfrgell Genedlaethol roedd yn rhaid ufuddhau i'w gofynion, meddai'r Athro ap Llwyd.
"Dwi'n cyfaddef fy mai," meddai. "Tra o'n i yn Llyfrgellydd Cenedlaethol roedd yna dueddiad eich bod yn cael eich gorfodi i chwarae i ffidil Llywodraeth Cymru.
"Be' oedd yn bwysig i Lywodraeth Cymru oedd gweld bod y pennau yn dod drwy'r drws.
"Mae'n bosib bod y blaenoriaethau oedden ni'n ymwneud â nhw o ran cynnal digwyddiadau yn chwarae gormod i ffidil y llywodraeth.
"Os nad ydych chi'n chwarae i ffidil y llywodraeth mae 'na beryg wedyn bod y Llyfrgell Genedlaethol yn dioddef.
"Mae 'na bwysau gwleidyddol ar sefydliadau fel y Llyfrgell i wneud yr hyn y mae gwleidyddion am i chi 'neud yn hytrach na bod yn ffyddlon i'r weledigaeth greiddiol."

Mae'n bosib nad oedd y pwyslais ar y gweledigaeth graidd, medd Pedr ap Llwyd
Ychwanegodd ei bod yn "gwbl hanfodol cael pobl drwy'r drysau", a bod adolygiad diweddar wedi casglu "bod y Llyfrgell yn un o gyfrinachau mwyaf Cymru".
Mae'r ochr farchnata wedi "gweddnewid" ers hynny, meddai, "ond mae'n bosib ein bod wedi rhoi'r pwyslais ar faterion sy'n gwrthgyferbynnu neu'n cystadlu â'n gweledigaeth graidd o ran y casgliadau cenedlaethol".
'99% yn mwynhau'
Wrth ymateb dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae'r Llyfrgell i bawb ac rydym yn gweithio ar draws pob adran i ddenu pobl yma ar gyfer ymchwil, mwynhad a dysgu.
"Rydw i'n hynod o falch o'r ffaith fod mwy a mwy o bobl yn cael budd o ddefnyddio'r Llyfrgell yma yn Aberystwyth ac ar-lein.
"Roedd gwaith ymchwil cynhwysfawr ar y Llyfrgell gan gwmni ymchwil Beaufort yn 2024 hefyd yn dangos bod 99% o ddefnyddwyr y Llyfrgell wedi mwynhau eu profiad yn fawr ac y byddent yn ei argymell i ffrindiau."
Soniodd bod strategaeth newydd ar y gweill, ac ymgynghoriad "i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed wrth siapio dyfodol y Llyfrgell".

Cafodd Dr Rhodri Llwyd Morgan ei benodi yn Brif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2024
Dywedodd bod y gwaith o "ddatblygu, diogelu a hwyluso mynediad cynhwysol i'r casgliadau yn gonglfaen i'n cenhadaeth", a'i bod yn "ymrwymiad creiddiol gennym i wasanaethu pobl Cymru ym mhob rhan o'r wlad" gydag "uchelgais clir i gynyddu'r pwyslais ar ymgysylltu'n ehangach".
"Rydym yn benderfynol o wneud hyn mewn ffyrdd sy'n greadigol ac sy'n dal dychymyg pobl o bob cymuned a chefndir ledled Cymru.
"Rydym yn ymrwymedig i gydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac rydym yn rhannu'r uchelgais i alluogi pawb i fwynhau cyfleoedd diwylliannol ac i gael budd o'r Casgliadau Cenedlaethol."
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2024
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sectorau diwylliannol, celfyddydau a chwaraeon Cymru yn gwneud cyfraniad cymdeithasol ac economaidd hanfodol i'n cymdeithas, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
"Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen yn dilyn blynyddoedd o setliadau ariannu anodd gan Lywodraeth y DU.
"Mae'r setliad mwy ffafriol diweddar gan Lywodraeth y DU wedi rhoi cyfle i ni ddyrannu rhagor o gyllid i'n sefydliadau diwylliannol, celfyddydau a chwaraeon cenedlaethol yng nghyllideb ddrafft 2025-26, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru."