Ruth Jones yn ennill medal yng Ngŵyl y Gelli

Ruth Jones gyda'i medal Ffynhonnell y llun, Adam Tatton
Disgrifiad o’r llun,

Ruth Jones yn derbyn ei medal ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actores a'r awdures boblogaidd, Ruth Jones, wedi ennill y Fedal Ddrama yng Ngŵyl y Gelli ddydd Sul.

Mae awdur War Horse, Michael Morpurgo, a'r nofelydd Elif Shafak, hefyd wedi eu hanrhydeddu yn yr ŵyl ddydd Sul.

Mae'r medalau wedi eu cyflwyno'n flynyddol ers y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.

Mae'r ŵyl flynyddol wedi cychwyn ers 22 Mai ac yn parhau nes 1 Mehefin.

Fe dderbyniodd Ruth Jones, sy'n adnabyddus am bortreadu cymeriad Nessa yn y gyfres boblogaidd Gavin and Stacey, Fedal Ddrama'r ŵyl.

Mae Ruth Jones hefyd yn yr ŵyl i drafod ei nofel newydd, By Your Side.

Mae'r nofel yn sôn am ddarganfod llawenydd yn y llefydd mwyaf annhebygol, a phwysigrwydd dal gafael ar gyfeillgarwch cariad a chymuned - yn enwedig pan fydd bywyd yn anodd.

Fe dderbyniodd Michael Morpurgo y Fedal Ffuglen, gydag Elif Shafak yn derbyn Medal Ryddiaith yr ŵyl.