Cyhuddo dyn yn dilyn 'ymosodiad parhaus' ar ddynes

Llys y Goron Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyn wedi’i gyhuddo o saith drosedd ar ôl i ddynes gael ei chanfod ag anafiadau difrifol.

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi’i gyhuddo o geisio treisio, bygwth lladd ac achosi niwed corfforol difrifol ar ôl i ddynes gael ei chanfod ag anafiadau difrifol i’w hwyneb.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y ddynes wedi dioddef "ymosodiad parhaus" yn ardal Wdig, Sir Benfro, nos Wener.

Mae Benjamin Guiver, o Abergwaun, yn wynebu saith cyhuddiad.

Mae’r dyn 34 oed wedi’i gadw yn y ddalfa cyn iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe.

Bydd presenoldeb heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf er mwyn tawelu meddwl y gymuned, meddai’r llu.

Mae'r heddlu wedi apelio ar dystion i gysylltu â nhw gydag unrhyw wybodaeth.