Teyrngedau i 'dad cariadus' fu farw ar ôl ymosodiad honedig

Timmy MatthewsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Timmy Matthews ei fod yn "gymeriad cariadus"

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw yn dilyn ymosodiad honedig yn Abertawe dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad y tu allan i dafarn The Mill ar Ffordd Brynmor yn ardal Brynmill tua 20:15 nos Wener, 25 Gorffennaf.

Cafodd Timmy Matthews, 63 o ardal Townhill, ei gludo i Ysbyty Treforys, a bu farw o'i anafiadau ddydd Sul.

Mae Steven Vonk, 51 o Abertawe, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dywedodd teulu Mr Matthews ei fod yn "gymeriad cariadus" a bod y teulu a phawb yn y gymuned mewn sioc wedi ei farwolaeth.

"Bydd ei ferch, ei chwaer a'i holl ffrindiau yn Abertawe yn ei golli'n fawr," medd y teulu mewn datganiad.