Cynllun peilot gofal brys Aberteifi yn dod i ben

Canolfan Gofal Integredig Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Ers 11 Ionawr mae Canolfan Gofal Integredig Aberteifi yn cynnig gwasanaeth gofal brys yr un diwrnod

  • Cyhoeddwyd

Bydd oriau agor ar benwythnos gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod mewn canolfan iechyd yng Ngheredigion, yn dod i ben ddydd Sul 30 Mawrth.

Cafodd ei weithredu fel rhan o gynllun peilot yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, ac ers 11 Ionawr mae'r gwasanaeth wedi ymestyn ei oriau agor i gynnwys dyddiau Sadwrn a Sul.

Fe wnaeth staff a chleifion y ganolfan iechyd alw fis Chwefror, i droi'r cynllun peilot i fod yn wasanaeth parhaol ar benwythnosau.

Bwriad y gwasanaeth oedd helpu i leddfu'r pwysau ar adrannau brys ysbytai, ac mae'r cynllun wedi arbed cannoedd o bobl rhag gorfod ymweld â'u hysbytai lleol.

Daw'r penderfyniad i'w gau wrth i gyllid 50 diwrnod Llywodraeth Cymru, oedd yn ariannu'r cynllun yn rhannol, ddod i ben.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol mai "cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw penderfynu sut mae'n defnyddio ei setliad ariannu blynyddol i gynllunio a darparu gwasanaethau".

'Lleihau straen ar adrannau damweiniau ac achosion brys'

Yn ystod y saith penwythnos cyntaf, gwelodd y gwasanaeth 845 o gleifion, y byddai tua 75% ohonynt fel arall wedi mynd i adran achosion brys, meddai Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn datganiad.

Roedd y model gweithio saith diwrnod hefyd fod i hwyluso treial o fodel gofal Ward Digidol.

Dros ddeufis, cafodd 63 o gleifion eu "derbyn yn rhithiol" a derbyn gofal yn nes at eu cartrefi.

Mae asesiad ar y gweill ar hyn o bryd i ddeall effaith gweithredu'r gwasanaethau ar y penwythnosau.

Bydd y gwerthusiad hwn yn dechrau unwaith y bydd y treial tri mis wedi'i gwblhau.

Dywedodd John Evans, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion a Sir Benfro yn BIP Hywel Dda, fod yr oriau agor dros dro yma wedi rhoi cymorth "amhrisiadwy i'n cymuned".

"Gan leihau'r straen ar adrannau damweiniau ac achosion brys, a chaniatáu i ni archwilio modelau gofal newydd."

'Edrych ymlaen at ganlyniadau'r asesiad'

Ychwanegodd Mr Evans eu bod yn ddiolchgar am yr adborth.

"Rydym yn ddiolchgar am yr holl adborth cadarnhaol gan y rhai sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth ac yn edrych ymlaen at ganlyniadau'r asesiad parhaus."

Bydd gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi yn parhau i fod ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 0800 tan 18:00.

Gall cleifion gerdded i mewn ond maen nhw'n cael eu hannog i ffonio'n gyntaf i siarad â nyrs, a threfnu amser apwyntiad.