Pwy ddylai dalu am ofalu am y meirw mewn mynwentydd?
- Cyhoeddwyd
Dylai'r gwaith o gynnal a chadw mynwentydd sydd wedi cau gael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol, yn ôl yr Eglwys yng Nghymru.
Maen nhw'n dadlau fod costau cynyddol cynnal a chadw, a'r ffaith bod llai yn mynd i'r eglwys, yn gwneud y sefyllfa yn anghynaladwy.
Ar hyn o bryd, eglwysi plwyf sy'n cynnal a chadw'r mynwentydd sydd wedi cau.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, byddai trosglwyddo'r cyfrifoldeb yn gorfod dod â "chyllid llawn a chynaliadwy".
Mae'r Eglwys yn ymgynghori er mwyn pwyso a mesur pa mor ymarferol ac addas fyddai trosglwyddo'r cyfrifoldeb.
'Her bob blwyddyn'
"Yr her ydy bob blwyddyn mae'r costau yn codi ac mae'r angen i glirio'r safleoedd yn mynd yn fwy o faich i'r gynulleidfa sy'n mynd yn llai bob blwyddyn," meddai'r Parchedig Sara Roberts, Caplan Bro Ogwen.
"Os ydy'r eglwys wedi cau a'r fynwent yn llawn does dim modd cael mwy o arian yn dod i mewn drwy claddedigaethau ond mae'r costau cynnal a chadw dal yna gyda llai o bres yn dod i mewn."
Dywed yr Eglwys yng Nghymru fod cannoedd o fynwentydd yn yr un sefyllfa, gan gynnwys mynwent Tanysgafell ar gyrion Bethesda, sydd bellach yn adfail.
Yno mae nifer o gerrig beddi wedi syrthio a choed a chwyn yn tyfu dros y fynwent.
Yn ôl y Parchedig Sara Roberts, mater o sicrhau cyllid i ddod â pharch i'r meirw ydy'r cynnig newydd.
"Mae ganddo ni gyfrifoldeb tuag at y genhedlaeth sydd wedi bod," meddai.
Yn ôl y Canon Robert Townsend, Archddiacon Meirionnydd, mae angen mawr i newid y drefn.
"Mae 'na rai mynwentydd sydd wedi cau yn cael eu hedrych ar eu hôl ac mi yda ni'n ddiolchgar i rai cynghorau cymuned ac awdurdodau lleol sydd yn cyfrannu," meddai.
"Ond nid pawb sy'n gwneud hynny felly mi fydde'n golygu bod yr arian... wel 'sa ni'n gallu defnyddio arian at bethau eraill yn hytrach nag edrych ar ôl tir."
Rhybudd sydd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y darlun cyllidebol eisoes yn heriol.
"Mae awdurdodau lleol yn cydnabod pwysigrwydd cynnal a chadw mynwentydd cymunedol, ond mae cynghorau eisoes dan bwysau ariannol sylweddol," meddai llefarydd.
"Rhaid i unrhyw gynigion i drosglwyddo cyfrifoldebau ychwanegol, fel cynnal a chadw mynwentydd sydd wedi cau, ddod gyda chyllid llawn a chynaliadwy i sicrhau y gall cynghorau gyflawni'r dyletswyddau hyn heb effeithio ar wasanaethau hanfodol eraill."
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 9 Ionawr, 2025.