Y Seintiau Newydd allan o Gyngres UEFA

Y Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd y Seintiau o 2-0 i Differdange Lwcsembwrg ar gyfanswm goliau

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch Y Seintiau Newydd yn Ewrop y tymor hwn ar ben ar ôl i bencampwyr Cynghrair Cymru golli yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA.

Fe gollodd y Seintiau o 2-0 i Differdange Lwcsembwrg ar gyfanswm goliau.

Ar ôl colli'r cymal cyntaf o gôl i ddim, 1-0 i Differdange oedd y sgôr yn Lwcsembwrg nos Fawrth.

Daeth yr unig gôl o'r gêm yn yr ail hanner o gic o'r smotyn gan Samir Hadji.

Mae'r golled yn golygu fod pob un o glybiau Cymru bellach allan o brif gystadlaethau Ewrop, wedi i Hwlffordd a Penybont golli yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig