Gerwyn Price yn ennill trydedd noson Uwch Gynghrair Dartiau

- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson gofiadwy i'r Cymro Gerwyn Price nos Iau ar ôl iddo ennill trydedd noson Uwch Gynghrair y Dartiau yn Nulyn.
Fe wnaeth y Cymro guro Nathan Aspinall o 6-3 yn y rownd derfynol.
Roedd pencampwr y byd yn 2021 ar ei orau trwy gydol y noson gan guro pencampwr presennol y byd, Luke Littler, a rhif un y byd, Luke Humphries, i gyrraedd y rownd derfynol.
Dyma'r tro cyntaf i Price ennill noson ers 2023 - lle aeth ymlaen i orffen yn yr ail safle yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Price yw trydydd enillydd y tymor ar ôl i Humphries a Littler ennill yn ystod y bythefnos gyntaf.