Cyngor Caerdydd yn cael mwy o alwadau am lygod mawr

Cael llygod mawr yn ei dŷ yw pryder mwyaf David Armstrong
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd â llygod mawr "afiach" ger ei gartref yn dweud ei fod yn byw mewn pryder y gallai'r anifeiliaid ddod i mewn i'w dŷ yng Nghaerdydd.
Mae David Armstrong, 62, wedi byw yn y brifddinas ers 15 mlynedd, ac mae'n dweud bod y broblem wedi gwaethygu yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Roedd cynnydd o 10% mewn galwadau i wasanaeth difa pla Cyngor Caerdydd y llynedd, wrth i gwmni preifat ddweud bod y broblem yn waeth nawr nag ar unrhyw adeg yn eu 36 mlynedd yn y diwydiant.
Dywedodd y cyngor y dylai pobl sy'n byw yng Nghaerdydd sicrhau eu bod yn cael gwared ar fwyd mewn modd priodol.

Dywedodd David Armstrong bod biniau yn rhan o'r broblem
Mae Mr Armstrong yn byw ym Mae Caerdydd, ac mae'n dweud bod llygod mawr wedi dod yn fwy o broblem ers i finiau sy'n cael eu rhannu gan drigolion y stad ddechrau gorlenwi.
Dywedodd bod un o dîm cynnal a chadw'r stad wedi clirio'r sbwriel, ac wrth godi darn o goncrit, "roedd bag plastig gyda thua deg o lygod mawr ifanc ynddo".
Problem sbwriel 'enfawr'
Mae'r gymdeithas tai sy'n gyfrifol am y stad wedi clirio'r sbwriel, ond fe wnaeth Mr Armstrong ddangos tyllau llygod mawr o amgylch y biniau.
"Mae plant yn chwarae yma ac fe allen nhw fod yn cyffwrdd pethau mae'r llygod wedi bod drostyn nhw," meddai.
"Dwi wedi gweld bois y biniau yn rhedeg ar ôl y llygod i fyny'r heol yn ceisio sefyll arnyn nhw."
Ychwanegodd: "Mewn gwlad fel Cymru ddylen ni ddim gorfod byw gyda hyn... yn poeni drwy'r amser am lygoden fawr yn dod i'r tŷ.
"Unwaith maen nhw mewn a chi methu cael nhw allan, mae'n broblem fawr."

Cafodd y llygoden hon ei gweld yn agos at gartref David Armstrong ym Mae Caerdydd
Mae cwmnïau preifat sy'n delio â'r broblem hefyd yn dweud bod mwy o lygod mawr i'w gweld.
Dywedodd Dalton Pest Services bod "cynnydd enfawr mewn galwadau" am lygod.
Yn ôl un arall, Gareth Davies o Pest and Property Solutions, nid yw wedi gweld sefyllfa mor wael yn ei 36 o flynyddoedd yn y diwydiant.
"Mae gyda ni broblem sbwriel enfawr, yn sicr yng Nghaerdydd," meddai.
"Mae pobl yn taflu sbwriel i wrychoedd, taflu pethau o geir, bwyd wedi ei hanner fwyta."
Dywedodd bod llygod mawr a gwylanod yn dod o hyd i fwyd mewn bagiau bin ar y strydoedd, a bod tymereddau uwch o ganlyniad i newid hinsawdd yn golygu bod llygod mawr yn gallu "bridio gydol y flwyddyn" bellach.
Rhybuddiodd hefyd yn erbyn rhai mathau o wenwyn sy'n cael eu gwerthu i'r cyhoedd, gan ddweud nad ydynt yn ddigon cryf.

Dywedodd Gareth Davies bod llygod mawr bellach yn gallu "bridio gydol y flwyddyn"
I eraill, mae byw yn agos at lygod mawr yn rhan annatod o fyw mewn dinas.
Dywedodd Neil Harris, sy'n byw yn ardal Cathays ers 2018, bod y creaduriaid yn cael eu beirniadu'n annheg.
"Maen nhw yn llythrennol ym mhobman," meddai, gan ddweud ei fod wedi gweld un yn ei ardd yr wythnos gynt, ac yn ei gartref.
"Ond dydyn ni ddim yn cwyno oherwydd 'dy ni'n derbyn bod hynny'n rhan o fyw yn yr ardal.
"Gallwn ni reoli'r broblem, ond wnawn ni ddim cael gwared arnyn nhw, a dydyn nhw ddim yn ddrwg i gyd."
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd7 Mai 2024
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
Roedd 3,166 o alwadau i wasanaeth difa pla Caerdydd am lygod mawr yn 2024, meddai'r cyngor.
Roedd hynny'n 10% o gynnydd ers 2023, pan oedd y nifer yn 2,889, a 15% o gynnydd ers 2022, pan oedd y nifer yn 2,720.
Ond nid problem i Gaerdydd yn unig yw hon - o'r 14 cyngor sy'n cynnig gwasanaeth difa pla, dywedodd 12 bod cynnydd mewn galwadau yn 2023.
Dywedodd pedwar bod cynnydd pellach yn 2024.
Mae tystiolaeth anecdotaidd o gynnydd dros y DU, meddai Niall Gallagher o'r British Pest Control Association.
Dywedodd bod cynghorau'n wynebu heriau, ond wrth i gasgliadau sbwriel ddigwydd yn llai aml, bod risg uwch o broblemau.
'Bwydo adar yn bwydo llygod hefyd'
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod y ffaith bod llygod mawr yn gallu addasu i newidiadau ac yn bridio'n gyflym yn ffactorau.
Maen nhw'n cynghori pobl i sicrhau nad oes tyllau mewn waliau, tyllau aer neu ddraeniau ble allai llygod ddod i mewn.
"Tynnwch safleoedd nythu posib drwy gadw gerddi'n daclus a thorri llystyfiant", meddai llefarydd.
"Byddwch yn ymwybodol hefyd drwy fwydo adar gwyllt neu anifeiliaid eraill, y gallwch fod yn bwydo llygod mawr hefyd."
Ychwanegodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod problemau'n digwydd "pan nad yw biniau'n cael eu defnyddio'n gywir - er enghraifft pan mae bwyd yn mynd i fagiau bin du sy'n gallu cael eu rhwygo gan lygod mawr neu wylanod".