Dyn anabl yn poeni am lygod mawr o achos trefn ailgylchu newydd

Matthew Rushton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Matthew Rushton yn poeni y gallai'r gwastraff ddenu llygod i'w gartref

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn anabl o'r gogledd yn dweud nad ydy o'n gallu gwneud defnydd o system ailgylchu newydd, a'i fod yn poeni am effaith hynny ar ei iechyd.

Cafodd y system o ddefnyddio bocsys ailgylchu - un ar ben ei gilydd - ei gyflwyno yn Sir Ddinbych yn ystod yr haf.

Ond yn ôl Matthew Rushton, 51 oed o Brestatyn, mae o wedi gorfod cadw ei holl sbwriel a deunydd ailgylchu mewn un bin gwyrdd ers chwe mis bellach.

Mae'r bin hwnnw ond yn cael ei gasglu unwaith bob pedair wythnos, meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir fod "staff wedi mynd i weld Mr Rushton er mwyn trafod gwahanol opsiynau a sut y gallwn ni ei gefnogi".

Fe wnaeth Matthew Rushton - sy'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd - ddioddef anafiadau i'w gefn ar ôl disgyn chwe blynedd yn ôl.

"Mae'r bocs isaf mwy neu lai ar lefel y llawr, a dydw i methu cyrraedd hwnnw oherwydd y problemau gyda fy nghefn a'r arthritis," meddai.

Mae Mr Rushton - sy'n chwe troedfedd a naw modfedd - hefyd yn disgwyl am lawdriniaeth ddwbl ar ei ben-glin.

"Dwi'n ei chael hi'n anodd byw mewn byd sydd wedi cael ei ddylunio ar gyfer pobl maint 'arferol'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn Sir Ddinbych bellach yn gorfod rhannu eu gwastraff ailgylchu mewn bocsys gwahanol

Dechreuodd casgliadau wythnosol o finiau ailgylchu - sy'n gofyn i bobl rannu eu gwastraff i focsys gwahanol - ar 3 Mehefin, ond ni chafodd miloedd o finiau eu casglu.

Ymddiheurodd prif weithredwr y cyngor sir, Graham Boase ar y pryd, gan nodi fod mwy o wastraff wedi cael ei gasglu na'r disgwyl.

'Rhaid derbyn bod yna broblem'

Yn ôl Mr Rushton, mae'r holl becynnau sy'n dod gyda'i feddyginiaeth yn golygu fod ganddo gryn dipyn o wastraff i ystyried ei fod yn byw ar ben ei hun, a bod ei finiau yn aml yn "gorlifo erbyn yr ail wythnos".

Mae'n poeni y bydd effaith ar ei iechyd os nad yw'r gwastraff yn cael ei gasglu am fis.

"Mae gen i broblemau iechyd, a'r peth gwaethaf posib yw meddwl y gall llygod gael eu denu yma," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl mai fi yw'r unig un sy'n poeni - mae 'na nifer o gwynion wedi bod am y gwastraff yn casglu a'r posibilrwydd o lygod yn cael eu denu, ond dwi ddim yn meddwl bod y cyngor yn cymryd y cwynion hynny o ddifrif.

"Mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn bod yna broblem, ac efallai bod modd i rai pobl fynd yn ôl i'r hen system os nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r cynllun newydd.

"Os nad yw hynny'n bosib, yna beth am ddarparu biniau mwy o faint?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Rushton yn dweud bod ei finiau yn gorlifo erbyn yr ail wythnos

Mae Miranda Evans, rheolwr busnes a phartneriaethau gydag Anableddau Cymru, yn dweud bod pobl anabl yn gorfod delio â nifer o heriau yn ymwneud ag ailgylchu.

"Efallai bod rhai â nam ar eu golwg felly mae lliwiau'r bagiau yn gallu bod yn broblem, neu i rai sydd ag anableddau corfforol, mae cario a symud y gwastraff i'r mannau cywir yn gallu bod yn her," meddai.

"Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried y materion hyn wrth ddatblygu cynlluniau ailgylchu ar hyd y wlad."

Cwyno i'r Ombwdsmon

Dywedodd Mr Rushton fod swyddogion y cyngor wedi cynnig sawl opsiwn arall, gan gynnwys defnyddio sachau ailgylchu neu osod byrddau y tu allan i'w gartref.

Ond mae'n dweud nad ydy'r opsiynau hynny yn ymarferol chwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinbych fod Mr Rushton wedi "dewis cyfeirio'r mater at yr Ombwdsmon, ond nad oedd y gŵyn honno wedi ei derbyn".

Mae llefarydd ar ran yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cadarnhau eu bod nhw'n asesu cwyn newydd gan Mr Rushton ar hyn o bryd.

Pynciau cysylltiedig