Trystan Lewis a'i gariad at dractors

Trystan Lewis
  • Cyhoeddwyd

"Trystan Tractors oedden nhw yn fy ngalw i yn yr ysgol."

Pan oedd y mwyafrif o blant yn sôn am eu harwyr yn y byd chwaraeon yn yr ysgol, hen dractorau oedd byd yr arweinydd côr adnabyddus, Trystan Lewis.

Mae wedi bod â diddordeb yn y peiriannau ers blynyddoedd ac mae ganddo ambell un yn ei gasgliad personol.

Aled Huws aeth i gyfarfod Trystan yn Llanfair Talhaearn a gweld y casgliad.

David Brown 990
Disgrifiad o’r llun,

David Brown 990 - Un o'r tractors o gasgliad Trystan

Un o'r tractorau sy'n agos at galon Trystan yw'r Ffyrgi bach lwyd TE20.

"Hwn ydi un o'r pwysicaf ohonyn nhw i gyd achos mae 'na elfen sentimental, tractor fy nhaid oedd y Ffyrgi, fues i yn treulio oriau yn eistedd a chogio gyrru'r tractor yn blentyn.

"Nesa i hwnna wedyn mae'r David Brown 880 o 1967, mae 'na hanes diddorol i'r 880, mae wedi dod o fferm yn Llannerch-y-medd.

"Nes i ei brynu fo ar eBay, roedd 'na dipyn o olwg ar y cradur, roedd o wedi'i fraenu yn o arw, nes i ei dynnu yn racs, ei baentio fo a thrwyn newydd i'r bonet, erbyn hyn mae mewn cyflwr reit dda," meddai.

Fe ddechreuodd diddordeb Trystan mewn tractorau pan oedd yn blentyn ifanc yn ymweld â fferm ei nain.

"Mae ochr Mam a Dad, y ddwy ochr yn ffermio. Roedd 'na David Browns yng nghartref Dad ac un yng nghartref Mam.

"Pan o'n i'n teithio yn y car roeddwn wrth fy modd yn spotio tractors, mae 'na rai pobl yn hoffi spotio trêns ond ro'n i wrth fy modd yn spotio tractors.

"Yn yr ysgol roedd plant yn casglu sticeri pêl-droed, ond hel tractors o'n i, Trystan Tractor o'n i yn yr ysgol.

"Uchafbwynt i mi pob pythefnos, ro'n i'n mynd draw i Ddyffryn Clwyd a phob gwylie, ro'n i'n mynd draw i Lanbed i neud y gwair ac ati.

"Roedd fy ewythr yn dod i gartref Mam pob dydd Sadwrn i neud y gwair ac ro'n i efo fy nhrwyn yn llythrennol ar y ffenest yn disgwyl iddo gyrraedd achos o'n i'n gwybod fysa 'na joban i neud efo'r Ffyrgi, ac ro'n i'n gwirioni."

Trystan a'i Yncl ArthurFfynhonnell y llun, Trystan Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Trystan a'i Yncl Arthur ar gefn y David Brown

Mae Trystan yn enwog am arwain corau llwyddiannus yn y Gogledd.

Ar hyn o bryd mae'n arweinydd Côr Cymysg Dyffryn Conwy a Chymdeithas Gorawl Llanelwy, gan gynnwys sawl un arall.

Ond y tu allan i'r byd cerddorol, mae modd dod o hyd i Trystan yn trwsio neu adnewyddu hen beiriant i'w ychwanegu at ei gasgliad.

"Mae 'na un ar goll yn y gyfres, mae 'na David Brown 900, nathon nhw mond neud o am 18 mis, mi faswn i'n licio un o'r rheiny.

"Fyswn i'n licio brawd mawr i'r 880, David Brown 1200, hwnnw oedd y tractor mwyaf. Does gen i ddim diddordeb mewn tractors heddiw. Maen nhw i gyd yn unffurf ac yn fawr ac yn hyll.

"Maen nhw rŵan wrach yn cynrychioli sut ma' pethe yn mynd ym mywyd pob dydd fod pobl yn dilyn ei gilydd fel defaid, roedd y rhain yn gyfnod lle oedde ti'n nabod y tractors drwy edrych arnyn nhw a'u rhifau."

Ffyrgi yn cario coedFfynhonnell y llun, Trystan Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ffyrgi yn cael ei ddefnydio hyd heddiw i gario coed

Er bod Trystan yn mynd i sioeau ac yn arddangos y tractors, mae hefyd yn cael defnydd ymarferol gan eu defnyddio o amgylch ei dir adref.

"Mae gen i eisiau codi sied, maen nhw ar fynd bob wythnos. Mae'r 880, rydw i'n hollti coed, yn ogystal â hynny a dwi'n mynd a nhw i sioeau, mae 'na ryw fath o frawdoliaeth yn y busnes tractors 'ma.

"Dwi'n perthyn i glwb David Brown, clwb y Ffyrgis a Chymdeithas Hen Dractorau Dyffryn Clwyd.

"Be sy'n ddiddorol mae pobl yn dotio ar dractors. Maen nhw yn denu pobl yn y sioeau le mae pobl yn dod ac yn gofyn os geith y plentyn eistedd ar y tractor ac ati," meddai.

 hithau'n dymor y sioeau, mae hi'n amser prysur i Trystan. Pan nad yw'n arddangos ei dractorau mae'n pori'r we neu'n ymweld â marchnadoedd peiriannau gyda'r gobaith o ychwanegu at ei gasgliad rhyfeddol o drysorau pedair olwyn.

Pynciau cysylltiedig