Galw am wrthod apêl perchnogion i ehangu Chwarel Dinbych

Protest Breedon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd protest y tu allan i bencadlys Cyngor Sir Ddinbych pan wrthodwyd y cais i ymestyn y safle yn Rhagfyr 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn erbyn ehangu chwarel yn Sir Ddinbych yn paratoi am frwydr apêl.

Mae perchnogion Chwarel Dinbych eisiau ei hymestyn i gaeau gwyrdd ar gyrion y dref, ond cafodd hynny ei wrthod gan gynghorwyr sir.

Mae'r perchnogion, cwmni Breedon, yn apelio yn erbyn hynny ac mae gan aelodau'r cyhoedd hawl i roi barn.

Mae Breedon yn dweud eu bod yn aros am gasgliadau Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC), sy'n goruchwylio datblygu a defnydd tir ar ran Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nerys Ann Roberts y byddai'n "golled anhygoel" cael gwared â llwybrau cyhoeddus sydd ger y chwarel

Mae'r llwybrau cyhoeddus sy'n rhedeg ar gaeau ger y chwarel yn boblogaidd gyda nifer o drigolion Dinbych, sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cynllun y cwmni.

Un o'r rheiny ydy Nerys Ann Roberts, a gafodd ei magu yn y dref ac sy'n cofio ffenestri ei chartref yn "ysgwyd" gan ffrwydradau'r chwarel pan yn blentyn.

"Fel teuluoedd yn Ninbych sydd wedi defnyddio'r llwybrau yma ers blynyddoedd, mae'n mynd i fod yn golled anhygoel," meddai.

"Pwy fydd isio dod yma am dro pan fydd 'na anferth o wal yma? A be' mae'n mynd i wneud i'r bywyd gwyllt?

"'Den ni wedi gweld yn barod sut mae'n tywydd ni'n mynd efo'r newid hinsawdd 'ma, wel dydy ymestyn y chwarel ddim yn mynd i helpu pethau nadi!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau Breedon yn cynnwys ymestyn ffin y chwarel dros ddau gae cyfagos

Mae cynlluniau Breedon yn cynnwys ymestyn ffin y chwarel dros ddau gae cyfagos, gan ailgyfeirio llwybr cyhoeddus sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy goedwig.

Mae'r cais hefyd yn cynnwys plannu coed a mewnforio gwastraff anadweithiol er mwyn helpu i adfer y tir ar gyfer cadwraeth.

Cafodd y cynllun ei wrthod ym mis Rhagfyr 2023 gan aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych oherwydd bod y tir y tu allan i ffiniau'r Cynllun Datblygu Unedol, ac y byddai effaith niweidiol ar goedwig sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Roedden nhw hefyd yn ofni y byddai effaith niweidiol yn amgylcheddol i bobl sy'n byw ger y chwarel.

Fe ddechreuodd cwmni Breedon apêl fis Tachwedd y llynedd gyda PCAC, ac mae gan aelodau'r cyhoedd tan 20 Ionawr i wneud sylwadau ar yr apêl.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid iddyn nhw weld nad ydy hwn yn addas o gwbl," meddai Mair Jones

Un arall sy'n gwrthwynebu'r cynllun ydy Mair Jones, sy'n dweud bod rhai o'r llwybrau cerdded yn dyddio 'nôl i'r 1840au.

"Mae'r ardal jyst yn llesol. Mae pobl yn gallu cerdded yma gyda'u cŵn, gyda'u plant," meddai.

"Fyse ei golli fo yn erchyll. 'Den ni isio i PCAC edrych ar hyn yng nghyd-destun argyfwng newid hinsawdd.

"Mae'n rhaid iddyn nhw weld nad ydy hwn yn addas o gwbl."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Mae apêl wedi'i chyflwyno yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar y mater hwn, a bydd yn cael ei chlywed gan PCAC."

Dywedodd cwmni Breedon: "Mae'r cais yn destun proses apêl ac wedi ei gyflwyno i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC).

"Rydym yn aros am eu penderfyniad."

Pynciau cysylltiedig