'Argyfwng' tu ôl i'r camerâu ym myd y criwiau llawrydd

Gweithiwr teledu yn gwasgu botwm mewn galeri cynhyrchu rhaglenni yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae hanner gweithwyr llawrydd y diwydiant teledu yn ddi-waith ar hyn o bryd, yn ôl undeb Bectu

  • Cyhoeddwyd

Mae gostyngiad yn nifer y rhaglenni teledu sy'n cael eu comisiynu wedi arwain at "argyfwng" y tu ôl i'r camerâu, gyda nifer o griwiau llawrydd yn gadael y diwydiant yn gyfan gwbl.

Er gwaethaf llwyddiant rhaglenni teledu Cymreig fel Gavin and Stacey a'r gyfres Welcome to Wrexham, dywedodd yr undeb Bectu fod hanner y gweithwyr llawrydd yn ddi-waith ar hyn o bryd.

Cyllidebau tyn a gostyngiad mewn refeniw hys bysebu sydd wrth wraidd y penderfyniadau gan ddarlledwyr i gomisiynu llai.

Dywedodd pennaeth un cwmni cynhyrchu annibynnol fod gweld cwmnïau eraill yn mynd i'r wal yn 2024 yn "frawychus".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Welcome to Wrexham yn dangos Cymru i'r byd, ond ar y cyfan mae nifer y rhaglenni dogfen ac adloniant sy'n cael eu comisiynu yma yn gostwng

Yn ôl gweithwyr llawrydd a chynhyrchwyr, roedd penderfyniadau'r darlledwyr wedi arwain at lai o raglenni'n cael eu comisiynu, yn enwedig rhaglenni adloniant a rhaglenni dogfen.

Mae darlledwyr masnachol wedi wynebu costau cynyddol a gostyngiad mewn refeniw hysbysebu, tra bod y BBC ac S4C hefyd wedi gorfod arbed arian a newid blaenoriaethau o ran y cynnwys maen nhw'n ei ddarlledu ar deledu llinol ac ar lwyfannau digidol.

Penderfynodd Amy Mills roi'r gorau i weithio yn y diwydiant teledu yn gyfan gwbl oherwydd prinder gwaith.

"Doeddwn i ddim yn gallu deall sut roeddwn i'n mynd i wneud i bethau i weithio," meddai, ar ôl treulio deng mlynedd ar gynyrchiadau teledu rhwydwaith yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl gadael y diwydiant teledu, mae Amy Mills yn dweud i'w ffrindiau ddechrau "ystyried opsiynau eraill" hefyd

Mae newidiadau sylweddol wedi digwydd, gan gynnwys effaith y pandemig a'r ffyniant ôl-Covid mewn cynyrchiadau, cyn i hynny droi'n ostyngiad mawr yn gymharol sydyn.

Mae Amy, o Ben-y-bont ar Ogwr, bellach yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus i elusen, a dywedodd fod ei ffrindiau sy'n gweithio'n llawrydd yn "dal ati" yn y gobaith y bydd y sefyllfa'n gwella.

"Maen nhw wir yn dechrau ystyried opsiynau eraill," meddai.

Dywedodd ei bod yn teimlo "galar" o golli ei gyrfa, ond bod ganddi fwy o sicrwydd ariannol mewn swydd ddibynadwy erbyn hyn.

Gallai gweithwyr llawrydd a oedd yn ystyried gadael y diwydiant teledu barhau i ddefnyddio eu sgiliau hefyd.

Ychwanegodd Amy: "Yn y byd teledu, rydyn ni'n bobl sy'n gallu gweithio ar amryw bethau ar yr un pryd. Rydym wedi arfer gweithio i derfynau amser a phwysau uchel, ac mae'r sgiliau hynny'n ddefnyddiol mewn cymaint o ddiwydiannau eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Gwerthodd Ben Randall rhywfaint o'i offer sain er mwyn talu'r biliau ym mis Tachwedd

Mae'r cyfansoddwr teledu a gemau Ben Randall yn un o'r gweithwyr llawrydd sy'n gobeithio goroesi'r storm.

"Roedd rhaid i mi werthu rhywfaint o fy offer i bara'r mis," meddai, gan gofio sut wnaeth e ymdopi â diffyg gwaith ym mis Tachwedd. Roedd yn gyfnod "hollol sych" a dyw hi ddim ar ben eto.

"Oni bai eich bod chi'n un o gyfansoddwr mawr Hollywood, rydych chi'n cael trafferthion."

'Does gen i ddim cynllun arall'

Mae rhai comisiynau newydd wedi cyrraedd yn ddiweddar, ond mae'n bryderus am y dyfodol.

"Dydw i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth arall, felly does gen i ddim cynllun arall," meddai.

Mae straen iechyd meddwl hefyd yn effeithio ar weithwyr llawrydd sy'n wynebu mwy o ansicrwydd nag erioed wrth chwilio am waith.

"Mae 'na elfen seicolegol," meddai Ben.

"Roeddwn i'n reit lwcus pan adewais i'r brifysgol, fy mod wedi cyfarfod â'r holl bobl wych hyn, ac roeddwn i'n brysur iawn am rai misoedd, am y rhan fwyaf o'r flwyddyn.

"Ac yna yn sydyn, sych," meddai. "Mae ceisio dwyn perswâd ar bobl i'ch llogi trwy e-bost yn dod yn anoddach."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Er llwyddiant Gavin and Stacey dros y Nadolig, mae'n gyfnod ansicr i nifer ym maes cynhyrchu teledu yng Nghymru

Mae rhaglenni heb eu sgriptio, fel sioeau adloniant a rhaglenni dogfen, wedi cael eu taro'n arbennig o wael gan lai o gomisiynu gan y darlledwyr.

Dywedodd Bectu fod dros hanner ei aelodau llawrydd allan o waith, gyda 78% yn dweud eu bod yn cael trafferth talu eu biliau.

Dywed Carwyn Donovan, sy'n arwain cangen yr undeb yng Nghymru: "Mae bron i hanner y gweithlu hwn yn ystyried sut i adael y diwydiant o fewn y pum mlynedd nesaf, a dylai hynny fod yn bryder sylweddol i Lywodraeth Cymru, ond hefyd i Lywodraeth y DU.

"Mae'r diwydiant sgrin yn stori o lwyddiant sylweddol ac yn cyfrannu'n sylweddol at ein heconomi. Ond mae llwyddiant y diwydiant yn cael ei ategu gan y gweithwyr hynny, ac ni ellir gorbwysleisio'r rôl y maent yn ei chwarae mewn diwylliant hefyd, wrth adrodd stori Cymru i weddill y byd."

'Cryfhau'r diwydiant yn y tymor hir'

Mae Bectu eisiau i Lywodraeth y DU greu comisiynydd gweithwyr llawrydd i oruchwylio'r gweithlu ac amddiffyn eu hawliau.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Prydain: "Heb yr hunangyflogedig, ni fyddai ein diwydiant teledu yn gallu diddanu miliynau o bobl ledled y byd a chyfrannu biliynau i'n heconomi. Rhaid i'r gweithwyr hyn deimlo bod gyrfa greadigol yn gynaliadwy.

"Rydym yn croesawu'r gwaith y mae Awdurdod Safonau Annibynnol y Diwydiannau Creadigol yn ei wneud i roi set gadarn o safonau ar waith i sicrhau bod y sector yn parhau i fod yn un o'r gorau yn y byd i weithio ynddo."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "gyfnod heriol i'r diwydiant teledu" a bod eu buddsoddiadau yn y diwydiannau creadigol wedi'u "targedu tuag at gryfhau'r diwydiant yn y tymor hir".

Caeodd y cwmni cynhyrchu annibynnol Cymreig, Wildflame, ym mis Awst, ynghyd â Label 1 oedd wedi cynhyrchu Saving Lives in Cardiff i BBC Cymru.

Dywedodd BBC Cymru fod darlledwyr yn "gorfod addasu a newid y ffordd maen nhw'n comisiynu rhaglenni" yn sgil newid yn ymddygiad y gynulleidfa.

Dywedodd y gorfforaeth eu bod yn "buddsoddi mewn mwy o gynnwys o Gymru ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein" a bod rhaglenni "premiwm" gan BBC Cymru eleni wedi cynnwys dramâu fel Lost Boys and Fairies a rhaglenni dogfen "dylanwadol".

Dywedodd S4C eu bod "yn parhau i gomisiynu yn ôl yr arfer" ond "rydym yn cydnabod pa mor anodd yw'r tirlun cyfryngol i weithwyr llawrydd ac rydym yn parhau i gydweithio'n agos gyda'r sector i geisio'u cefnogi drwy'r cyfnod heriol yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi bod yn gyfnod "brawychus" wrth weld rhai cwmnïau cynhyrchu yn mynd i'r wal, yn ôl Emyr Afan

"Mae wedi bod yn frawychus i lawer o gwmnïau," meddai Emyr Afan, prif weithredwr cwmni Afanti sy'n creu rhaglenni i'r BBC, S4C a Channel 5.

"Rydym wedi colli rhai cwmnïau yn y misoedd diwethaf, sydd ddim wedi bod yn hawdd. Ond mae angen i ni addasu hefyd," ychwanegodd.

Roedd y cwmni eisoes wedi arallgyfeirio ar gyfer "cyfnod mwy digidol, lle mae pobl yn defnyddio teledu mewn ffordd wahanol, lle mae'r gyllideb yn dynnach," meddai Mr Afan.

Ar ôl ffyniant mewn gwariant ar raglenni ar ôl y pandemig, dywedodd Mr Afan fod y "crash" dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn "anoddach na Covid" i weithwyr teledu.

"Dydi'r darlledwyr ddim yn gyfrifol amdanom ni. Ni sy'n gyfrifol am ein dyfodol ein hunain.

"Mae ennill y comisiynau hynny hyd yn oed yn fwy gwerthfawr nag yr oedden nhw o'r blaen," meddai, gan ychwanegu bod llwyddo mewn busnes yn ymwneud ag "arloesi, mae'n ymwneud ag entrepreneuriaeth."

Pynciau cysylltiedig