Galw am wneud gwell defnydd o bencadlys y llywodraeth yn y gogledd

Adeilad Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

12% o staff Cyffordd Llandudno fu'n gweithio yn y swyddfa ar gyfartaledd ym mis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw am wneud gwell defnydd o swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.

Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, 12% o'r staff fu'n gweithio yn y swyddfa ar gyfartaledd ym mis Mawrth.

Mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders o'r Ceidwadwyr, yn galw am wneud lle i fusnesau yno.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod manteision posib i weithio hyblyg, a bod "wyth tenant sector cyhoeddus" eisoes yn defnyddio'r adeilad yng Nghyffordd Llandudno.

Cafodd pencadlys Llywodraeth Cymru yn y gogledd ei agor gan y prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones yn 2010.

Ar gost o £20m, roedd cyfleusterau ac adnoddau yma ar gyfer dros 600 o staff, a'r nod oedd datganoli swyddi o Gaerdydd.

Ond wnaeth hynny ddim digwydd yn y niferoedd oedd yn cael eu disgwyl, a rhyw 400 o swyddi sydd wedi eu lleoli yma heddiw.

Ond yn gynharach eleni daeth i'r amlwg mai 49 aelod o staff - 12% o weithlu'r swyddfa - oedd wedi ei defnyddio ar gyfartaledd ym mis Mawrth.

Janet Finch-Saunders
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Janet Finch-Saunders, mae trigolion yn anhapus nad oes mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o'r adeilad

Dywedodd Janet Finch-Saunders wrth raglen Newyddion S4C: "Dyw'r adeilad ddim yn cael llawer o ddefnydd, ac mae trigolion yn codi'r peth efo fi yn reit aml.

"Maen nhw'n dweud 'edrychwch ar y gost, dyw pobl ddim yn mynd i mewn i'r gwaith yn y swyddfeydd'.

"Rydyn ni fel trethdalwyr yn y pendraw yn talu am hyn, ac mae wir yn gwylltio pobl."

Yn ogystal â staff Llywodraeth Cymru, mae' na weithwyr o gyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill yn defnyddio'r adeilad.

Yn ôl undeb llafur y PCS mae hynny'n creu rhywfaint o incwm i'r llywodraeth.

Mae'r undeb hefyd yn pwysleisio nad oes unrhyw reswm i gredu nad ydy'r trefniant lle mae staff yn gweithio'n rhannol o'r swyddfa ac o adref, yn effeithiol.

Adeilad Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "wyth tenant sector cyhoeddus" eisoes yn defnyddio'r adeilad

Mae Janet Finch-Saunders eisiau i rannau o'r adeilad gael eu gosod i fusnesau preifat.

Mewn neges i staff y llywodraeth mewn perthynas â swyddfa arall yn Y Drenewydd ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd y prif weinidog Eluned Morgan: "Yn amlwg fe ddaw pwynt ble mae'n rhaid i chi ddweud, os nad ydych chi'n troi fyny, allwn ni ddim cyfiawnhau cadw'r swyddfa benodol yma ar agor."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "hyblygrwydd gweithio" yn medru "cynyddu cynhyrchiant, gwella cydbwysedd bywyd a gwaith a sicrhau manteision lleihau carbon".

Ychwanegodd fod gan y llywodraeth "wyth tenant sector cyhoeddus" sydd bellach yn defnyddio'r adeilad yng Nghyffordd Llandudno, "gyda 290 o staff allanol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.