Dyn aeth ar goll ym Môr Iwerddon yn 'diolch i bawb am helpu'

Chris ElleryFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Chris Ellery fod pobl leol wedi bod yn hynod groesawgar wedi iddo lanio yn Iwerddon ac egluro beth oedd wedi digwydd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a aeth ar goll mewn cwch bychan ym Môr Iwerddon wedi diolch i bawb fu'n chwilio amdano.

Methodd Chris Ellery â dychwelyd ar ôl mynd ar daith ar ei ben ei hun oddi ar arfordir Sir Benfro wythnos yn ôl.

Ond fe laniodd y gŵr 54 oed o Fryste yn Iwerddon ddydd Sadwrn a cherdded i orsaf heddlu yn Sir Wicklow "yn flinedig ond yn iawn", yn ôl disgrifiad swyddogion yno.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'n diolch i bobl am "negeseuon caredig a oedd wedi cynnal fy nheulu a ffrindiau yn ystod y dyddiau anodd diwethaf".

Mae hefyd wedi canmol "y cannoedd o wirfoddolwyr RNLI a Gwylwyr y Glannau" fu'n chwilio amdano ar hyd arfordir Sir Benfro.

Mae wedi creu tudalen ariannu torfol yn y gobaith o godi £10,000 ar gyfer yr RNLI yn Abergwaun.

Cymorth 'enaid caredig'

Mewn neges yn cadarnhau ei fod "yn ôl yn ddiogel yn y DU", dywedodd y bydd yn rhannu manylion "fy nhaith anodd ar draws Môr Iwerddon un diwrnod, ond am y tro byddaf yn canolbwyntio ar ochr fwy positif fy nghyfnod yn Iwerddon".

Fe laniodd yn Kilmichael Point sy'n "rhan anghysbell a phrydferth o Iwerddon" a dywedodd bod "enaid caredig o'r enw Shay" wedi stopio yn ei gar a chynnig lifft iddo, er bod yr orsaf heddlu agosaf 26 cilomedr i ffwrdd.

"Dywedodd Shay wedyn ei fod yn ddi-waith ar hyn o bryd, ac fe wnaeth y peth yn fwy arbennig - bod rhywun heb lawer o arian yn rhoi ei geiniog olaf i helpu rhywun diethr," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Pan apeliodd teulu Chris Ellery am help i ddod o hyd iddo, cafodd ei ddisgrifio fel ffotograffydd brwd oedd yn hoffi mynd ar ei gwch i dynnu lluniau o fywyd gwyllt

Fe gerddodd i orsaf heddlu a dweud beth oedd wedi digwydd ac fe wnaeth y Garda gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys a'i deulu.

Dywedodd ei fod yn "emosiynol iawn" pan glywodd eu lleisiau, ac bod pobl leol wedi bod yn hynod groesawgar.

"Cysylltodd y swyddog Garda, Brendan, â gwesty lleol yn Baltinglass," meddai.

"Ges i groeso cynnes i'r llety gan y perchennog Eammon... a ddywedodd wrth holl selogion y dafarn: 'Dyma Chris Ellery'.

"Cyhoeddodd Prif Weinidog Iwerddon neges o gefnogaeth..."

Mae Gwylwyr y Glannau wedi cadarnhau eisoes bod problem wedi codi gydag injan cwch Mr Ellery wedi iddo adael arfordir Sir Benfro ddydd Iau diwethaf, a bod ei ffôn wedi stopio gweithio wedi hynny.

Pynciau cysylltiedig