Dau safle priodasol poblogaidd yn cau

Plasdy Nanteos
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Plasdy Nanteos yn cau fis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dau safle priodasol wedi cyhoeddi eu bod yn cau.

Bydd Plas Nanteos ger Aberystwyth yn cau fis Mawrth ac mae Gwesty'r Oriel yn Sir Ddinbych eisoes wedi cau eu drysau.

Mae Plas Nanteos yn Rhydyfelin yn westy ac wedi bod yn weithredol fel safle priodasol ers 12 o flynyddoedd.

Dywedodd Claire Stott, Rheolwr Cyffredinol Plas Nanteos, eu bod nhw'n wynebu "heriau economaidd".

'Amodau economaidd heriol'

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ms Stott: "Gyda chalon drom, rydw i'n cyhoeddi ein bod yn cau Plas Nanteos ar 5 Mawrth 2025.

"Nid yw'r penderfyniad yma bod yn hawdd."

Dywedodd bod y cwmni wedi wynebu amodau economaidd heriol ers nifer o flynyddoedd.

"Er gwaetha' ymdrechion i sicrhau dyfodol i'r cwmni, rydym wedi methu dod dros yr heriau yna."

Mae'r neges yn mynd ymlaen i ddweud bod y Plas wedi croesawu gwesteion ers 12 mlynedd ac wedi "dathlu cerrig milltir ac wedi creu atgofion a chyfeillgarwch oes".

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwesty'r Oriel yn Llanelwy wedi cau eu drysau am y tro olaf

Mae lleoliad poblogaidd arall hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn cau.

Mae Gwesty'r Oriel yn Llanelwy wedi cau eu drysau am y tro olaf.

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â'r gwesty ond mae 'na neges sydd wedi ei recordio yn dweud bod y cwmni "wedi dod i ben".

Pynciau cysylltiedig