Dyn yn cyfaddef llofruddio menyw 47 oed yn Abertawe

Matthew Battenbough yn cael ei hebrwng i Lys Ynadon Abertawe ddechrau Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Battenbough yn cael ei hebrwng i Lys Ynadon Abertawe ddechrau Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 33 oed wedi cyfaddef ei fod wedi lladd menyw a gafodd ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Abertawe ym mis Chwefror.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun fe blediodd Matthew Battenbough yn euog i lofruddio Leanne Williams, 47 oed.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod gan swyddogion heddlu yn ei thŷ ar Ffordd Gomer yn ardal Townhill am 14:00 ddydd Iau, 27 Chwefror.

Yn gynharach nododd archwiliad post-mortem fod Ms Williams wedi dioddef anafiadau sylweddol - anafiadau sy'n gyson ag ymosodiad.

LeanneFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Leanne Williams ei chanfod yn farw ar 27 Chwefror

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau gan Heddlu De Cymru, dywedodd yr Arolygydd Ditectif David Butt: "Roedd y newyddion am farwolaeth Leanne yn ergyd i'w theulu ac i gymunedau ehangach Townhill ac Abertawe.

"Mae teulu Leanne yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

"Gobeithiwn y bydd ple euog Matthew Battenbough yn cynnig rhywfaint o ryddhad iddynt yn dilyn y cyfnod trawmatig yma."

Cafodd Battenbough ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 26 Medi.