'Dim cysondeb' ar draws bwrdd iechyd y gogledd, meddai claf canser

Martin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Martin Williams bryderon am yr "anghysondeb o fewn gwahanol adrannau" ym mwrdd iechyd y gogledd

  • Cyhoeddwyd

Mae claf canser o Ynys Môn yn dweud fod ganddo bryderon o hyd am anghysondeb o fewn bwrdd iechyd y gogledd.

Roedd melanoma Martin Williams, 61, wedi lledaenu erbyn iddo gael diagnosis bron i dair blynedd yn ôl, gan olygu nad oes modd gwella.

Er yn canmol y driniaeth mae'n ei gael yn Ysbyty Glan Clwyd ers hynny, mae Mr Williams yn dweud bod agweddau eraill o'i ofal wedi bod yn rhwystredig.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod trafodaethau blaenorol gyda Mr Williams "wedi ein helpu i newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau".

'Mae'r adnoddau gynnon ni'

Ar ôl dod o hyd i lwmp ar ei wddf fis Mawrth 2022, cafodd Mr Williams lythyr yn dweud bod rhestr aros o 40 wythnos.

Hyd yn oed wedi i'w feddyg teulu gymryd biopsi, roedd hi'n wyth wythnos cyn i'r canlyniad ddod yn ôl ac roedd yn dal i ddisgwyl i gael ei weld ym mis Medi y flwyddyn honno.

Penderfynodd gael tynnu'r lwmp yn breifat a chafodd wybod ym mis Hydref bod ganddo melanoma - a'r canser wedi lledaenu, heb bosibilrwydd o wella.

Siaradodd yn agored ar y pryd gan ddweud ei fod wedi cael ei "fethu".

Dafydd a Martin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd, mab Martin, yn helpu i drefnu'r digwyddiad cneifio

"Mae'r uned canser [yn Ysbyty Glan Clwyd] yn un o'r rhai gora' yn y wlad - alla i ddim faultio dim maen nhw'n 'neud," meddai.

Ond dywedodd fod ganddo bryderon o hyd am yr "anghysondeb o fewn gwahanol adrannau".

"Mae isio i bawb ddilyn esiampl uned [trin canser] Heulwen yn Glan Clwyd - ma' pawb yn fanno yn bositif, yn tynnu efo'i gilydd yn lle bod rhywun yn tynnu yn erbyn ei gilydd fel dwi'n gweld yn adrannau eraill.

"Mae'r adnoddau gynnon ni ond y diffyg trefnu ynddyn nhw [ydy'r broblem]," meddai.

"Mae isio i achosion llai gael eu gweld yn sydyn. Dwi methu dallt pam na fedran nhw ddim symud pobl drwadd yn gynt.

"Yn Gaerdydd 'da chi'n cael eich trin mewn wyth wythnos ond pam 'da ni'n y gogledd yn gorfod disgwyl 33 wsos?"

cneifio
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r digwyddiad cneifio sydd wedi'i drefnu gan deulu Martin Williams yn codi degau o filoedd o bunnau i achosion da pob blwyddyn

Dros y penwythnos, bu ei deulu'n rhan o ymdrechion i godi arian i'r uned ganser yng Nglan Clwyd, yn ogystal ag elusennau lleol eraill.

Mae'r digwyddiad cneifio yn nhafarn y Bull yn Llannerchymedd yn codi degau o filoedd o bunnau i achosion da pob blwyddyn.

Cafodd tua £60,000 ei godi'r llynedd gyda'r swm eleni wedi cyrraedd £42,500 erbyn nos Sadwrn.

Dywedodd Dafydd Williams, mab Martin: "I gymuned fach o bobl sy'n trefnu mae 'na swm anferth yn cael ei godi.

"Heb bethau fel hyn dydi pethau ddim yn mynd yn ei flaen [ond] dylsa petha' fel hyn ddim gorfod digwydd."

'Agored i adborth'

Mewn ymateb i sylwadau Martin Williams, dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Fel bwrdd iechyd, rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Williams am rannu ei brofiadau.

"Mae ein trafodaethau blaenorol gydag ef wedi ein helpu i newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau. Bydd y gwelliannau hyn yn parhau.

"Mae'r bwrdd iechyd bob amser yn agored i adborth.

"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phobl sydd â phrofiad o'n gwasanaethau ac sy'n dymuno ein helpu i'w gwella."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.