Edrica Huws: Yr artist byd enwog na chlywsoch chi amdani
- Cyhoeddwyd
Yn Japan a Ffrainc, mae Edrica Huws yn enw cyfarwydd fel artist tecstiliau ond efallai yma yng Nghymru lle treuliodd hi ddegawdau yn magu teulu nid yw mor adnabyddus.
Yn Llundain y ganed Edrica Huws yn 1907, ac yno hefyd yr astudiodd gelf yn Ysgol Gelf Chelsea ac yna yn y Coleg Celf Brenhinol. Yn Llundain hefyd y cyfarfu hi â Richard Huws – yr artist o Fôn a ddyluniodd logo triban Plaid Cymru – a phriodon nhw yn 1932 a hynny heb yn wybod i rieni Edrica.
Ar ôl treulio’r 1930au yn Llundain mewn cylchoedd o lenorion ac artistiaid amrywiol, penderfynodd y ddau eu bod wedi cael digon ar y ddinas. Yn 1939, symudodd y cwpl i fro mebyd Richard, sef Talwrn, Ynys Môn a magu pump o blant .
“Mi oedd hi’n berson creadigol. Roedd hi wedi dilyn Celf,” meddai Hanna Huws, wyres Edrica.
“Roedd hi mewn bwthyn di-drydan, di-ddŵr yn Talwrn am gyfnod cyntaf ei bywyd yn magu plant.”
“Oherwydd ei sefyllfa [yn fam i bump o blant] roedd hi wedi’i hamgylchynu gan ddillad plant, gan drwsio.
“Yn ei dyddiadur mae’n sôn am drwsio trwy’r amser – trwsio neu wneud dillad isa’ o ddilledyn arall sydd wedi rhwygo ac ati.
“Roedd y trwsio drwy’r adeg yn ymarferol, ondi mi oedd hi’n cadw [y deunyddiau sbâr]. Yn amlwg, roedd ganddi hoffter at batrwm, at lun, at liw ac ati.
“Dw i yn ei chofio hi’n casglu deunyddiau ac roedd pobl yn cadw deunyddiau diddorol iddi hi, ein dillad ni fel plant ac ati.
“Roedd hi’n rhoi trefn ar y bagiau o ran lliw neu siâp yn yr un modd â pallate artist.
“Ond dw i’n meddwl mai cyfrwng iddi hi oherwydd magu pump o blant oedd y deunyddiau i ddechrau, nid ei bod hi wedi sefyll yn wrthrychol a penderfynu 'mi wna i weithio drwy ddeunyddiau'.”
Nid tan yr oedd hi’n 51 mlwydd oed y dechreuodd Edrica ar ei chyfansoddiad tecstil cyntaf gan gyflwyno i’r maes weledigaeth newydd sbon o’i bosibiliadau.
"Chwaer dlawd celfyddyd gain"
Mae Diana Williams yn artist tecstiliau o Ynys Môn ac mae'n dweud bod gweledigaeth Edrica o bosibiliadau gweithio gyda ffabrigau yn arloesol:
“Dw i wedi edmygu Edrica ar hyd y blynyddoedd am y ffaith ei bod hi yn arloesol yn ei hamser. Mi dorrodd hi’r mowld o ran gwaith tecstil.
“Pan ’dach chi’n ystyried gwaith tecstil mae o erioed wedi bod yn chwaer dlawd i gelfyddyd gain. Er yr holl amser mae pobl wedi’i dreulio’n eu gwneud nhw roedd yn dod o dan ymbarél “crefft” ac o bosib yn cael ei ystyried yn israddol. Ond dydi hyn ddim yn wir.”
“Mae wedi ennill ei blwyf ac mae gennych chi artistiaid megis Cefyn Burgess, Celice Johnson Soliz, Eleri Mills – mae rhain wedi dod â bri i’r grefft yma, os leciwch chi.
“Mae’r diolch i arloeswyr fel Edrica. Yn lle rhoi gwaith tecstil mewn rhyw focs ’dan ni wedi cael eu hongian nhw ar y wal; rhywbeth doedd pobl ddim yn arfer ’neud.”
Llun cyntaf
Meddai Hanna: “Os edrychi di ar y llun cyntaf ’naeth hi, mi ddechreuodd hi yn y gornel a dechrau gwneud rhywbeth taclus, ac yn amlwg doedd hi methu – oedd hi wedi colli diddordeb yn syth. Roedd hi jyst isio bod yn greadigol.”
Cymerodd y gwaith cyntaf hwnnw, sef darlun o dŷ gwydr mawr, flwyddyn i’w gwblhau.
“Tybiaf fod ganddi rhyw feddylfryd o ‘dw i’n mynd i herio dynion yn eu maes nhw, ond dw i am ei wneud o drwy decstiliau.’
“Mae ’na elfen yna o ‘tria ddweud mai patchwork ydi o’ – ac mae gwneuthurwyr patchwork yn parchu ei gwaith hi yn arbennig – ond ti’n gallu gweld mai artist oedd hi ar waith trwy gyfrwng tecstiliau.
“Roedd gosod hynny yn y categori yna yn bwysig iddi, mai artist yn defnyddio tecstiliau oedd hi, nid patchwork oedd hi’n ’neud.”
“Mi fysa hi’n gosod darn o ddefnydd ac yn aros weithiau am rai dyddiau, yn ei symud o gwmpas, jyst i weld sut oedd o’n ffitio – dyna oedd y rhan bwysig, nid y pwytho.
“Mi oedd hi bron ar bwrpas yn gwneud hwnna’n flêr er mwyn dangos nad dyna pwynt y gwaith yma. Pwynt y gwaith yma ydy’r cyfansawdd.”
Erbyn iddi feistrioli’r grefft, dywed y gallai gwblhau llun o faint cyffredin mewn mis.
Bu hi’n gynhyrchiol iawn drwy gydol y 1970au, ac wedi creu 50 o weithiau erbyn 1975.
Bu farw Richard Huws, ei gŵr, ym mis Chwefror 1980. Dywedodd Edrica ei hun mai ef oedd ei “beirniad gorau a mwyaf llym.”
Yn fuan wedi’i farwolaeth yn 1981 symudodd Edrica i Baris yn Ffrainc lle roedd ei merch Angharad yn byw.
Roedd Hanna yn byw yno ar y pryd hefyd yn gweithio fel au pair.
“Roedd hi [Edrica Huws] yn byw mewn fflat yn Rue Montorgueil oedd yn edrych dros farchnad.
"I mi, y llun gorau oll [iddi hi ei wneud] ydi’r llun hefo’r lleni yn chwifio dros y ffenest achos mae hi wedi llwyddo cyfleu y cyrtans lês mor grefftus.
“Ac wrth gwrs mae’r cyswllt personol hefyd achos o’n i yno tra’r oedd hi’n sefydlu’r fflat yna.
“Roedd o’n edrych dros y farchnad, ac mae’n braf meddwl bod yr holl fywyd yma o’i hamgylch hi – sŵn y farchnad, yr holl fwyd ffresh – mae’n cyfleu llawer iawn y llun yna.”
Dechrau arddangos ei gwaith
Gyda’r symud hwn, a chefnogaeth ei phlant yn trefnu cyfleoedd i arddangos ei gwaith daeth newid mawr i’w gyrfa a dechreuodd dderbyn cydnabyddiaeth eang am ei gwaith. Erbyn 1982 roedd hi’n cynnal ei harddangosfa gyntaf yn Ffrainc – yn oriel Le Bleu du Ciel yn Vélzelay.
Tra’r oedd hyn yn digwydd yn Ewrop, ben arall y byd yn Japan, lle roedd merch arall iddi, Catharine, yn byw roedd llyfr dwyieithog am ei gwaith yn cael ei gyhoeddi, Edrica Huws: Patchwork Pictures.
Cynhaliwyd nifer o arddangosfeydd yno hefyd ac mae’n debyg fod dros draean o’i gwaith gwreiddiol dal yn Japan.
Cydnabyddiaeth yng Nghymru
Nid tan 2007 ar achlysur canmlwyddiant ei geni, wyth mlynedd ar ôl ei marwolaeth, y cafodd ei gwaith ei arddangos yng Nghymru gyntaf a hynny drwy ymdrechion ei mab Daniel ac Oriel Môn, Llangefni.
Mae Diana’n cofio mynd i’r arddangosfa. Eglura sut y cafodd ei hysbrydoli gan y profiad o weld gwaith Edrica:
“Ro’n i wedi cael fy nghyfareddu gan y gwaith dweud y gwir.
“Be’ nes i weld yno oedd lluniau efo ymdeimlad o ryddid a chariad ynddyn nhw.
“Be’ oedd gynnoch chi oedd denfyddiau patrymog wedi cael eu gosod yn ofalus wrth ochr ei gilydd i greu gwahanol arlliw ac ymdeimlad o waith 3D.
“Ac wedyn o fynd yn agos oeddach chi’n gweld doeddan nhw ddim yn bwythau bach twt, ond yn hytrach yn bwyth redeg, pwythau hir, pwythau byr, igam-ogam, rhai’n agos at ei gilydd, rhai ymhell oddi wrth ei gilydd ond roedd y cyfanwaith yn llifo yn rhythmig ac yn dod at ei gilydd.”
“Nes i feddwl ‘Waw, dw i’n meddwl ’swn i’n licio gwneud hyn.’ Felly dyma fynd ati i brynu peiriant gwnïo. A doedd gen i ddim syniad hyd yn oed sut i roi’r edau drwy’r nodwydd i ddweud y gwir wrthoch chi!
“Ond dw i wedi canolbwyntio fwy ar y llinell a dyna fyswn i’n ddweud dw i’n ei wneud. Dw i’n defnyddio’r peiriant gwnïo fel mae artist yn defnddio pensil, jyst gadael i’r nodwydd gael rhwydd hynt ar draws y defnydd.”
Mae Edrica wedi ysbrydoli ei theulu hefyd.
Mae ganddi 16 o wyrion a phentwr o orwyrion a sawl un ohonynt wedi dilyn gyrfa greadigol gyda thecstiliau. Mae ei hwyres Asami yn ddylunydd ffabrigau yn gweithio yn India, ei hwyres Sara yn gweithio ym maes dylunio ffabrigau a dodrefn yn Nghanada, ac mae’r artist Cymreig Gwenllian Spink yn orwyres iddi.
Dydy Hanna ei hun ddim yn gweithio gyda thecstiliau ond mae hi wrth ei bodd â’r cyfrwng, ac yn trysori talent ei nain:
“Un arall o fy hoff luniau i, un sy’n ysbrydoli, a dyle fod yn ysbrydoli pawb yn enwedig merched, ydy’r gath ar y bwrdd smwddio.
"Mae hi wedi’i greu o yn ei nawdegau. Sbïa di ar y gath yna yn edrych mor herfeiddiol, yn hyderus ar yr haearn smwddio. Mae’n rhyw fath o her, ti’n gwybod?"
“Mae ’na rhywbeth yn y llun yna sydd yn dangos cymeriad Edrica. Mae hwnnw digwydd bod ym mherchnogaeth fy nhad i. Mae ’na rhywbeth am y llun yna sy’n crisialu Edrica, dw i’n meddwl.
“Jyst yr atgof o gymeriad Nain yn ei henaint yn mynd ati. Roedd hi dal yn pwytho yn ei nawdegau. Felly i ferch mae cael nain fel ’na yn ysbrydoliaeth, dydi?
“Gweld rhywun yn dyfalbarhau gyda diddordeb a’i gallu a’i medrusrwydd mewn unrhyw faes, ond yn enwedig yr un yma hefo defnyddiau.”
Dim ond dau o luniau Edrica Huws sydd yng nghasgliad cyhoeddus Cymru – un yn y Llyfrgell Genedlaethol a’r llall yn Oriel Môn. Cyflwynwyd ‘The Fall in Connecticut’ yn rhodd gan deulu Edrica i Oriel Môn yn 2021.
Wrth ei ddisgrifio dywedodd Nicola Gibson, rheolwr profiad cwsmer Oriel Môn, ac un oedd yn rhan o drefnu’r arddangosfa yn 2007:
“Mae’n beautiful. Ond mae bob un o’i gweithiau hi’n wych. Mae o’n waith sbesial ofnadwy ac mae o reit unigryw i’r casgliad.”
Mae merch Edrica, Catharine Nagashima, wrthi yn casglu basdata o holl luniau Edrica Huws, sydd ddim ymhell o 200 o luniau. Ymhen rhai blynyddoedd, pan fydd wedi ei drosglwyddo i'r Llyfyrgell Genedlaethol, mae’n gobeithio y gall fod o ddefnydd at ymchwil pellach.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd12 Hydref
- Cyhoeddwyd28 Awst
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019