Carcharu dau frawd am ymosod ar unigolyn gan arwain at ffit epileptig

James Holt a Nicholas HoltFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd James Holt (chwith) a Nicholas Holt (dde) eu dedfrydu i 27 mis yn y carchar

  • Cyhoeddwyd

Mae dau frawd o Abertawe wedi eu carcharu yn dilyn lladrad a arweiniodd i'r dioddefwr brofi ffit epileptig.

Fe wnaeth James Holt, 44, a Nicholas Holt, 37, o Sandfields, fynnu arian gan y dioddefwr ar ôl iddo adael siop yng nghanol y dref.

Yn fuan wedyn, ymosododd y brodyr ar y dioddefwr mewn archfarchnad ym Mharc Tawe, lle wnaethon nhw ddwyn ei arian a'i allweddi.

Mae'r ddau wedi eu dedfrydu i 27 mis yn y carchar.

Dywedodd y Ditectif Sarjant James Llewellyn: "Mae James a Nicholas Holt yn fwlis a oedd wedi ceisio rheoli gweithredoedd y dioddefwr, sy'n unigolyn bregus."

Pynciau cysylltiedig