Gollwng achos yn erbyn dyn mewn cysylltiad â thân difrifol

Safle y tânFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd adeilad ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei ddinistrio yn llwyr gan y tân ym mis Ionawr 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cadarnhau bod achos yn erbyn dyn oedd wedi'i gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd, wedi cael ei ollwng.

Cafodd adeilad ar Stad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr - oedd yn eiddo i gwmni Owens Group - ei ddinistrio yn llwyr yn y tân ym mis Ionawr 2024.

Fe ymddangosodd Ieuan Jones o Ben-y-bont yn Llys Ynadon Caerdydd fis Ebrill mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ar y pryd ac fe gafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Caerdydd.

Ond mae bellach wedi dod i'r amlwg, mewn gwrandawiad ym mis Mehefin, fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud nad oedden nhw am gynnig unrhyw dystiolaeth yn erbyn Mr Jones.

Dywedon nhw fod hynny yn dilyn trafodaethau pellach gydag arbenigwr tân.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.